Dolennu fideo cefndir
Mae Goleuo’r Gwyllt yn eich gwahodd i ymuno â 20,000 o bobl, o bob cefndir, i oleuo tirweddau prydferth ar draws y DU. Mae croeso cynnes i unrhyw un gofrestru ar gyfer y gyfres hon o ddigwyddiadau, a fydd yn dathlu byd natur, ein cyfrifoldeb i’w ddiogelu a hawl pawb i grwydro cefn gwlad. Mae’r prosiect hwn yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y Deyrnas Unedig, sef dathliad arloesol o greadigrwydd ar draws y DU yn ystod 2022, ac mae’n cael ei arwain gan yr arbenigwyr celfyddydau awyr agored Walk the Plank.
Rydyn ni eisiau i chi gario golau a’n helpu i greu digwyddiad hudolus a chofiadwy yn yr awyr agored. Bydd hyd at 20 o wahanol leoliadau cyfrinachol ar hyd a lled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon lle gallwch ymuno. Nid oes yn rhaid talu i gymryd rhan ac mae croeso cynnes i bawb gofrestru – a dweud y gwir, rydyn ni eisiau i chi ddweud wrthym beth sydd ei angen arnoch er mwyn i chi allu cymryd rhan.
Gyda’n gilydd, byddwn yn dathlu byd natur, yn dangos bod cefn gwlad yn eiddo i bob un ohonom, ac mai ein gwaith ni yw ei ddiogelu.
Byddwn i’n gallu ysgrifennu llyfr am yr holl adegau anhygoel a ges i, ond dwi’n credu mai’r allwedd i lwyddo gydag unrhyw ddigwyddiad yw gwneud yn siŵr eich bod yn dewis cyfranogwyr brwd
Bydd Goleuo’r Gwyllt hefyd yn brosiect carbon bositif net, gan helpu i leihau mwy o garbon nag y mae’n ei gynhyrchu. Y nod yw gadael dim ôl, a grymuso pawb sy’n gysylltiedig i wneud gwahaniaeth yn lleol. Yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, bydd miloedd o Oleuwyr yn gofalu am fyd natur i’r dyfodol.
Mae’r prosiect wedi’i wreiddio yng nghefn gwlad, a dathlu ein tirweddau. Mae’n eu gweld fel lleoedd gwerth eu diogelu i bawb, am byth