Cymryd rhan

Byddwch yn Oleuwr

Rydyn ni’n chwilio am 20,000 o Oleuwyr i helpu i oleuo tirweddau hardd ar hyd a lled y DU. Gallwch ymuno ar eich pen eich hun, gyda theulu a ffrindiau neu gyda mudiad. Mae’n rhad ac am ddim ac mae croeso cynnes i bawb. A dweud y gwir, rydyn ni’n gobeithio gwneud yn siŵr bod modd i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan wneud hynny.

‘Goleuwr’ yw ein henw ni ar gyfer rhywun sy’n cario golau ar gyfer Goleuo’r Gwyllt. Gyda’i gilydd, bydd miloedd o Oleuwyr yn goleuo rhai o fannau gwyrdd mwyaf godidog y DU wrth iddi nosi. Bydd pawb sy’n cofrestru i gymryd rhan yn creu celf anhygoel yn yr awyr agored. Bydd hyd at 20 o ddigwyddiadau gwahanol ar hyd a lled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gallwch gymryd rhan mewn un, neu deithio gyda ni i gymryd rhan mewn rhagor.

Fel Goleuwr, byddwch chi’n ddiogel a bydd rhywun yn eich arwain ac yn gofalu amdanoch ar hyd eich taith. Fyddwch chi ond yn gorfod treulio ychydig o oriau yn y lleoliad ar y diwrnod, a bydd bwyd ar gael a phethau hwyliog i’w gwneud. Mae’n gyfle i gwrdd â phobl newydd a bod yn rhan o rywbeth gwirioneddol arbennig. Gyda’n gilydd, gallwn greu hanes.

Byddwn hefyd yn cynhyrchu ffilm fer o bob digwyddiad a fydd yn cyfleu’r storïau a’r lleoedd cysylltiedig a byddwn yn darlledu’r ffilm ar-lein am ddim ar ôl pob digwyddiad.

Rydym yn gobeithio datblygu hyder pawb i fanteisio ar y digwyddiadau hyn yn ein tirwedd naturiol. Mae rhai safleoedd yn fwy hygyrch na’i gilydd a bydd ein Rheolwr Mynediad a phartneriaid lleol yn hwyluso cyfranogiad i bobl ag anghenion mynediad lle bynnag y bo modd. Rhowch wybodaeth am eich anghenion mynediad pan fyddwch yn cofrestru i gymryd rhan.

GSDS Concept

Cymryd Rhan

Rydyn ni eisiau i chi gario golau a’n helpu i greu digwyddiad hudolus a chofiadwy yn yr awyr agored. Bydd hyd at 20 o wahanol leoliadau cyfrinachol ar hyd a lled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon lle gallwch ymuno. Nid oes yn rhaid talu i gymryd rhan ac mae croeso cynnes i bawb gofrestru – a dweud y gwir, rydyn ni eisiau i chi ddweud wrthym beth sydd ei angen arnoch er mwyn i chi allu cymryd rhan.

Gyda’n gilydd, byddwn yn dathlu byd natur, yn dangos bod cefn gwlad yn eiddo i bob un ohonom, ac mai ein gwaith ni yw ei ddiogelu.

Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi cyflawni rhywbeth, wedi cysylltu ac y byddwn i’n cael fy nghroesawu’n ôl. Cefais le i rannu a doeddwn i ddim yn cael fy meirniadu. Gwnaeth Walk the Plank fy nghroesawu a chafodd fy holl faterion mynediad eu trin yn garedig.

Cyfranogwr Gweithdy
Walk the Plank