Digwyddiadau

Join us to create magical, memorable moments outdoors

Mae’r holl ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal fel rhan o Goleuo’r Gwyllt wedi’u rhestru isod. Rhwng mis Ebrill a mis Medi, bydd miloedd o bobl yn dod yn Oleuwyr, gan gario goleuadau effaith isel mewn Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ledled y DU wrth iddi nosi. Cliciwch ar y rhestrau i gael rhagor o wybodaeth am bob digwyddiad a sgroliwch i lawr i weld beth sydd ar y gweill ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Er mwyn diogelu’r mannau anhygoel hyn a gwneud yn siŵr nad ydym yn gadael dim olion o’n cyfnod yno, dim ond y bobl sy’n cofrestru i fod yn Oleuwyr fydd yn cael gwybod yr union leoliadau. Fydd neb yn gwylio’r digwyddiad a bydd y niferoedd yn cael eu cyfyngu felly dim ond y rheini sy’n cofrestru i gymryd rhan fydd yno ar y diwrnod.

map of the UK

Byddwn yn teithio i 20 o leoliadau gwahanol ar hyd a lled y DU

Os ydych chi eisiau cymryd rhan, bydd rhywbeth yn digwydd y gallwch chi gymryd rhan ynddo – p’un ai ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Efallai ei fod gerllaw, neu gallwch deithio gyda ni yno. Gall unrhyw un gofrestru i ymuno, a bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal beth bynnag fo’r tywydd!

Mae Walk the Plank yn gweithio gyda phob Parc Cenedlaethol ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i greu’r digwyddiadau hyn. Bydd pob digwyddiad yn dibynnu ar gael cadarnhad o ganiatâd perchennog y tir, cymeradwyo cynlluniau’r digwyddiadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol ac felly mae’n bosibl y bydd dyddiadau a lleoliadau digwyddiadau yn newid.

Ffilmiau

Wrth i ni barhau â’n taith i’r dirwedd, byddwn yn rhannu ffilmiau o bob digwyddiad, yn ogystal â straeon, lluniau, cerddoriaeth a mwy. Os ydych chi’n cymryd rhan fel Goleuwr, neu os ydych chi eisiau gweld beth mae Goleuo’r Gwyllt yn ei wneud, beth am edrych wylio ein ffilmiau?

Gallai caiacau wedi’u goleuo greu cylchoedd ar lyn. Dychmygwch ddawnswyr a thractorau wedi’u goleuo yn creu patrymau ar draws caeau. Yn ystod Ramadan, gallai plant sy’n cario eu goleuadau symud o amgylch wyneb y ddaear mewn gêm sy’n creu patrymau. Byddai modd creu map o’r sêr ar y dirwedd islaw.

Walk the Plank
ar Goleuo’r Gwyllt
01
02