Yn ôl I: Digwyddiadau

Gwynedd – Gogledd

Cynhelir y digwyddiad yn Cymru.

Byddwch y cyntaf i roi cynnig ar ein technoleg arloesol yn ein digwyddiad treialu mewn lleoliad hyfryd yng Ngogledd Cymru.

Wedi’i archebu’n llawn

Hygyrchedd y digwyddiad

Dewch i gario golau ac ymuno â ni ar daith gerdded hawdd ar y bryniau.

Mae rhai safleoedd yn fwy hygyrch nag eraill a byddwn yn hwyluso cyfranogiad i bobl sydd ag anghenion mynediad lle bynnag y bo modd. Os oes gennych chi anghenion mynediad, cofiwch roi gwybod i ni pan fyddwch chi’n cofrestru i gymryd rhan.

Dim mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn.

 Lumenator wedi'i oleuo gan olau cludadwy

Am Gwynedd

Rydym wedi dewis bryngaer o’r Oes Haearn yng Ngogledd Cymru fel lleoliad ar gyfer ein cynulliad cychwynnol lle byddwn yn rhoi ein goleuadau ar waith am y tro cyntaf. Byddwn yn goleuo safle a feddiannwyd gyntaf tua 2500 o flynyddoedd yn ôl ac yn rhoi cynnig ar goreograffi syml.

Mae ein taith ar draws tirweddau’r DU yn dechrau yng Ngogledd Cymru a byddem wrth ein bodd yn gweld gwirfoddolwyr yn barod i dreulio ychydig oriau mewn lleoliad gwyntog i’n helpu ni i roi cynnig ar ein goleuadau, ein systemau technegol ar y safle a’n ffyrdd o weithio.

Cofrestrwch fel Goleuwr ac ymuno â ni gyda’r nos.

Wedi’u cynnal mewn Lleoedd o Ddiddordeb Hanesyddol neu o Harddwch Naturiol, a gofalir amdanynt gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol