Cariwch olau ym Mharc Cenedlaethol syfrdanol Bannau Brycheiniog.
Mae rhai safleoedd yn fwy hygyrch nag eraill a byddwn yn hwyluso cyfranogiad i bobl sydd ag anghenion mynediad lle bynnag y bo modd. Os oes gennych chi anghenion mynediad, cofiwch roi gwybod i ni pan fyddwch chi’n cofrestru i gymryd rhan.
Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth yma am y gweithgareddau dan sylw, anhawster y llwybr cerdded, hygyrchedd a manylion cyffrous eraill yn y dyfodol.
Mae rhai safleoedd yn fwy hygyrch na’i gilydd a byddwn yn hwyluso cyfranogiad i bobl ag anghenion mynediad lle bynnag y bo modd. Dywedwch wrthym beth yw eich anghenion mynediad pan fyddwch yn cofrestru i gymryd rhan.
Yn 1957, sefydlodd y DU ei 10fed Parc Cenedlaethol, sef Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ei hymdrechion parhaus i ailadeiladu’r wlad ar ôl y ddau Ryfel Byd. Gyda mynyddoedd a rhostir, meini hirion a chestyll, rhaeadrau byrlymus a chymunedau bywiog, mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lawer i’w gynnig i drigolion ac ymwelwyr. Mae gennym hanes hir a lliwgar a mytholeg a diwylliant amrywiol a chyfoethog. Mae ein Parc Cenedlaethol tua 42 milltir o led. At ei gilydd, mae’n cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o Dde a Chanolbarth Cymru, ychydig i’r gorllewin o Swydd Henffordd, ac mae’n cynnwys rhannau o Bowys, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Rhondda a Merthyr Tudful. Mae wedi’i enwi ar ôl y Bannau Canolog, sy’n amlwg iawn ar y nenlinell i’r de o Aberhonddu. Maen nhw’n codi i 886 metr ym Mhen y Fan, y copa uchaf yn ne Prydain
Mae rhai o’r traddodiadau a helpodd ac a siapiodd ein tirweddau a’n bywydau bob dydd wedi diflannu dros amser; mae eraill yn parhau hyd heddiw. Mae awyr y nos yn rhyfeddol. Mae wedi ennill cydnabyddiaeth i ni fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol.
Mae ein treftadaeth ddiwydiannol yn wych: mae Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ac mae ein creigiau’n adrodd eu hanes eu hunain. Maen nhw mor unigryw fel bod rhan fawr o’n Parc Cenedlaethol wedi cael ei dynodi’n Geoparc Ewropeaidd a Byd-eang.
Lleoliad: Craig-y-nos Country Park
Wrth i ni barhau â’n taith i’r dirwedd, byddwn yn rhannu ffilmiau o bob digwyddiad, yn ogystal â straeon, lluniau, cerddoriaeth a mwy. Os ydych chi’n cymryd rhan fel Goleuwr, neu os ydych chi eisiau gweld beth mae Goleuo’r Gwyllt yn ei wneud, beth am edrych wylio ein ffilmiau?