Cyfle i wneud gwaith celf anhygoel yn yr awyr agored hyfryd yn Ynys Môn.
Mae rhai safleoedd yn fwy hygyrch nag eraill a byddwn yn hwyluso cyfranogiad i bobl sydd ag anghenion mynediad lle bynnag y bo modd. Os oes gennych chi anghenion mynediad, cofiwch roi gwybod i ni pan fyddwch chi’n cofrestru i gymryd rhan.
Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth yma am y gweithgareddau sydd ar gael yn y lleoliad hwn, anhawster y llwybr cerdded, hygyrchedd a manylion cyffrous eraill yn y dyfodol.
Mae rhai safleoedd yn fwy hygyrch na’i gilydd a byddwn yn hwyluso cyfranogiad i bobl ag anghenion mynediad lle bynnag y bo modd. Dywedwch wrthym beth yw eich anghenion mynediad pan fyddwch yn cofrestru i gymryd rhan.
Mae bron holl arfordir Ynys Môn, sy’n 201km o hyd, wedi’i ddynodi’n AHNE. Mae’r ynys yn cynnwys amrywiaeth eang o dirweddau arfordirol hyfryd ac mae’r AHNE yn cyd-daro â thri darn o Arfordir Treftadaeth. Mae rhai o’r creigiau hynaf ym Mhrydain, sef y Cymhlyg Mona cyn-Gambriaidd, yn ffurfio cefnenni isel a dyffrynnoedd bas llwyfandir y môr Ynys Môn. Mynydd Caergybi yw’r man uchaf (219m) ar yr ynys gyda golygfeydd pell anhygoel i Eryri. Mae clogwyni isel, bob yn ail â chilfachau, traethau cerrig a phentrefi sy’n swatio ynghudd, i’w gweld ar hyd glannau gogleddol yr ynys. Mae clogwyni calchfaen arfordir y dwyrain, gyda thraethau tywod mân ar wasgar, yn cyferbynnu’n llwyr â’r twyni tywod gwyllt yn y de sy’n rholio i lawr i Fae Aberffraw.
Mae cynefinoedd amrywiol, o rosydd morol i wastadeddau mwd, yn golygu bod llawer o ddiddordeb morol, botanegol ac adaregol yn gysylltiedig â’r AHNE. Mae twyni Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch yn enghraifft nodedig o’r cynefin cymhleth hwn ac mae clogwyni calchfaen yr ynys yn safle nythu pwysig.
Mae gan Ynys Môn dirwedd hanesyddol bwysig, gyda’i safleoedd gwarchodedig yn amrywio o siambrau claddu o’r Oes Efydd i Safle Treftadaeth y Byd canoloesol – Castell Biwmares. Mae dwy ardal yn yr AHNE wedi’u rhestru yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol yng Nghymru.
Yn draddodiadol, mae economi wledig yr AHNE yn seiliedig ar ddaliadau amaethyddol cymysg bach, er bod y nifer wedi gostwng 44 y cant ers 1945. Mae diwydiant lleol arwyddocaol sy’n cael ei ysgogi gan yr AHNE yn cynnwys gorsaf bŵer niwclear Wylfa. Nid yw’r AHNE yn cynnwys unrhyw drefi mawr ac mae trigolion ei phentrefi arfordirol yn teithio’n gynyddol i weithio ar y tir mawr.
Lleoliad: Amlwch
Wrth i ni barhau â’n taith i’r dirwedd, byddwn yn rhannu ffilmiau o bob digwyddiad, yn ogystal â straeon, lluniau, cerddoriaeth a mwy. Os ydych chi’n cymryd rhan fel Goleuwr, neu os ydych chi eisiau gweld beth mae Goleuo’r Gwyllt yn ei wneud, beth am edrych wylio ein ffilmiau?