Dysgwch am gyfleoedd eraill i fod yn Oleuwr yn y Finale:
Cymryd rhan mewn digwyddiadau eraill yng Nghymru:
Mae tirweddau rhyfeddol Parc Cenedlaethol Eryri yn denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn, gyda thua 600,000 o bobl yn dringo i gopa’r Wyddfa.
Un o heriau mwyaf y Parc yw’r pwysau gan ymwelwyr. I barchu hyn ac i helpu i warchod y Parc, mae Goleuo’r Gwyllt wedi recriwtio tîm bychan o ddringwyr a mynyddwyr arbenigol i greu gwaith celf ar gyfer y Finale ar yr Wyddfa – ni fyddant yn recriwtio Goleuwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar y mynydd.
Yn sefyll dros 3,000 troedfedd, Yr Wyddfa yw mynydd uchaf y Parc Cenedlaethol a heb os dyma gopa mwyaf poblogaidd Eryri.
Mae’r Wyddfa yn fynydd eiconig sy’n adnabyddus ym mhedwar ban byd. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei deithiau cerdded heriol, ond mae’r rhan fwyaf o’r tir yn gartref i glytwaith o ffermydd mynyddig. Mae’r mynydd hefyd yn cynnal bywyd gwyllt prin ac mae wedi’i ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol oherwydd ei fflora a’i ffawna unigryw.
Dysgwch am gyfleoedd eraill i fod yn Oleuwr yn y Finale:
Cymryd rhan mewn digwyddiadau eraill yng Nghymru: