Cynhaliwyd y digwyddiad yng Cymru.
Yn ôl I: Ffilmiau

AHNE Gŵyr, De Cymru

Lleoliad:
Three Cliffs Bay

Pobl sy’n padlfyrddio ac yn marchogaeth ceffylau, preswylwyr lleol o gŵyr, ac ymwelwyr o dde cymru yn ymgynnull yn un o leoliadau mwyaf hyfryd cymru.

Mae’r Three Cliffs Bay yn ne penrhyn Gŵyr wedi croesawu pobl ers miloedd o flynyddoedd.

Mae llwybrau Gŵyr yn hynafol, ac mae’r teithiau a wneir gan lawer o’n Goleuwyr yn digwydd ym mhedwar ban byd.

Mae Penrhyn Gŵyr yn un o dirweddau hynafol Cymru, ac yn un o’r ychydig fannau lle mae tir yn dal yn gyffredin. Mae pobl yn heidio fel defaid i’w thraethau hardd.

Dyma’r lle cyntaf yn y DU i gael statws arbennig yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Llyfr nodiadau’r digwyddiad

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn croesi o’r dwyrain i’r gorllewin, ac mae’r afon yn llifo o’r gogledd i’r de.

Ar adegau, mae olion carnau ceffylau i’w gweld ar y tywod cyn i’r llanw ddod i mewn.

Weithiau, mae angen i ni ddefnyddio’r cerrig camu tra byddwn yn aros i’r llanw fynd allan unwaith eto.

Mae cerddorion du a gwyn sy’n gwisgo sashiau gwyrddlas yn chwarae drymiau wrth iddynt gerdded ar hyd llwybr glaswelltog ar fryn
Geo-olau yn disgleirio ar wyneb merch ifanc

Y tiroedd hyn yw ein tiroedd ni

Cafodd y gerddoriaeth ei chreu gan Laura Bradshaw, a oedd yn gweithio gyda Oasis One World Choir a’r bardd Eric Ngalle Charles. Cafodd llawer o leisiau ac offerynnau eu recordio a’u cymysgu a’u cynhyrchu gan Leroy Lupton.

Gellir lawrlwytho’r sgôr ar gyfer yr alaw werin yn yr adran ganol yma.

Llinell o bobl yn padlfyrddio yn gwneud eu ffordd i lawr aber yr afon

Mae’r barcud, a luniwyd gan ddefnyddio geometreg a dychymyg plant ysgol gynradd Pennard, yn dathlu’r gwyntoedd sy’n chwythu o’r de orllewin… yn chwythu tywod yn ein llygaid, ac yn chwythu pobl o bell i fewn.

 

Mae’r bobl sy’n bresennol yn ffurfio cylch mwy o amgylch cylch llai o badlfyrddau yn y cyfnos, gyda sglein las o geo-oleuadau

Mae’r bobl sy’n padlfyrddio o dan arweiniad SUP Dude Stu, yn arnofio i lawr yr afon tuag at y môr. Cafodd y gelfyddyd o dywod a wnaed gan bobl ifanc o Glwb Ieuenctid Mixtup ei hysbrydoli gan symbolau neolithig, o adeg y siambr gladdu ym Mharc Le Breos ym mhen yr aber.

 Eisteddai menyw â choesau croes ar graig yn edrych allan dros dirwedd Gŵyr

Am Yr Gŵyr AHNE

Dewiswyd Gŵyr fel yr AHNE gyntaf i gael ei dynodi oherwydd ei harfordir clasurol a’i hamgylchedd naturiol eithriadol. Ac eithrio’r gornel ddwyreiniol fach drefol, mae Penrhyn Gŵyr i gyd yn rhan o AHNE.

Mae daeareg gymhleth yn rhoi amrywiaeth eang o olygfeydd mewn ardal gymharol fach. Mae’n amrywio o olygfeydd calchfaen carbonifferaidd gwych arfordir y de ym Mhen Pyrod a Bae Oxwich i’r morfeydd heli a’r twyni yn y gogledd. Yn fewndirol, y nodweddion mwyaf amlwg yw’r ardaloedd mawr o dir comin, gyda chefnennau rhostir tywodfaen amlwg yn cynnwys cefnen ysgubol Cefn Bryn.

Mae gan y dyffrynnoedd neilltuedig goetir collddail cyfoethog ac mae’r dirwedd amaethyddol draddodiadol yn glytwaith o gaeau sy’n cynnwys waliau, llethrau carreg a chloddiau.

Wedi eu cynnal mewn Lleoedd o Ddiddordeb Hanesyddol neu o Harddwch Naturiol a gofalir amdanynt gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Held at places of Historic Interest or Natural Beauty, looked after by National Trust

Gyda diolch i’n holl Oleuwyr, i’r grwpiau cymunedol, ac i’n partneriaid a wnaeth y daith gyda ni:

  • Dryad Bushcraft
  • Llysgenhadon Gŵyr
  • Canolfan Dreftadaeth Gŵyr
  • Mixtup Abertawe
  • Oasis One World Choir
  • Marchogwyr Parc Le Breos
  • Clwb Golff Pennard
  • Ysgol Gynradd Pennard
  • SupDudeStu

 

Diolch i’n rhanddeiliaid:

  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Ffotograffiaeth gan: Mohammed Hassan, Grace Springer and Robert Melen.