Cynhaliwyd y digwyddiad yng Cymru.
Yn ôl I: Ffilmiau

Digwyddiad peilot – gwynedd

Lleoliad:
Dinas Dinlle, Caernarfon

TAITH I’R DIRWEDD Â’N GOLEUWYR CYNTAF

Ddydd Sadwrn 19 Mawrth ymunodd tîm gwych o tua 100 o Oleuwyr â ni yn Ninas Dinlle, ger Caernarfon – cefnlen drawiadol i’r digwyddiad prawf arbennig hwn.

Mae Dinas Dinlle, bryngaer arfordirol o’r Oes Haearn â golygfeydd o Benrhyn Llŷn, Eryri ac Ynys Môn, yn ‘Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig’ oherwydd y cynefinoedd naturiol gwerthfawr. Â chysylltiadau â’r Oes Haearn, mae’r lleoliad hwn hefyd o ddiddordeb arwyddocaol i archaeolegwyr a haneswyr, ac yn ôl y sôn dyma gartref Lleu Llaw Gyffes, un o arwyr y Mabinogion.

Roedd yr haul yn tywynnu drwy’r dydd wrth i’r Goleuwyr ymarfer dilyniant o symudiadau mewn tirwedd arbennig – awyr las, mynyddoedd mawreddog a thraethau agored Llŷn – dan arweiniad coreograffwyr Goleuo’r Gwyllt a’u capteiniaid perfformio, tra oedd cerddorion yn chwarae offerynnau ar y promenâd.

Wrth iddi dywyllu, aeth ein criw ffilmio ati i ffilmio clipiau prawf, a bu’n tîm technegol o beirianwyr ac arbenigwyr eraill yn cofnodi perfformiad ein goleuadau, y prawf cyntaf allan yn y gwyllt!

Yn ystod y dydd buom yn profi ein goleuadau effaith isel, sydd wedi cael eu cynllunio gan bartneriaid ym maes technoleg, Siemens a Core Lighting, i fod yn sensitif i amgylchedd y nos. Wrth iddi dywyllu, creodd y Goleuwyr batrymau yn y dirwedd â’u goleuadau, gan gynnwys ôl troed esgid fawr, gan roi rhagflas o’r hyn sydd i ddod. Cafodd y digwyddiad hudolus hwn â llawer o bobl yn cymryd rhan ynddo ei ffilmio o’r awyr gan gamerâu drôn a thynnwyd lluniau ohono ar y tir.

Llyfr nodiadau’r digwyddiad

Roedd pob un o’r Goleuwyr yn gwisgo Monitor Clust, ac wrth iddynt symud ar draws y dirwedd roeddent yn gwrando ar seinwedd gerddorol drawiadol, wedi’i chreu gan Pete Moser, gan ddefnyddio synau o Gasgliad Goleuo’r Gwyllt, rhwng y cyfarwyddiadau symud. Gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn, roedd y Goleuwyr yn creu patrymau o olau a oedd yn mynd a dod dros dirwedd gwyllt Dinas Dinlle, a daliwyd y patrymau ar ffilm.

group rehearsal

CERDDORIAETH A SEINWEDDAU

Chwaraewyd trac amgylchynol ym Monitorau Clust y Goleuwyr – y trac wedi’i greu gan Shannon O’Grady ac Amelia Shaw o Brifysgol Salford.

Lumenators at dusk

Wrth i’r Goleuwyr ymlwybro i ben y fryngaer, roedd cerddorion dan arweiniad y cyfansoddwr Pete Moser yn chwarae cerddoriaeth ar y promenâd ger y traeth, a phobl yn chwifio baneri ac yn brwydro yn erbyn y gwyntoedd cryf. Cafodd y baneri eu comisiynu a’u dylunio’n arbennig gan Wendy Meadley.

Wedi’u cynnal mewn Lleoedd o Ddiddordeb Hanesyddol neu o Harddwch Naturiol, a gofalir amdanynt gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Diolch i’n rhanddeiliaid:

  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
  • Cyngor Gwynedd

Diolch yn arbennig i gaffi BRAF.

Lluniau gan Geraint Thomas, Panorama Photography.