Cynhaliwyd y digwyddiad yng Cymru.
Yn ôl I: Ffilmiau

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Lleoliad:
Craig-y-nos Country Park

Cynhaliwyd dathliad anhygoel o’r Fam Ddaear yng ngardd y gantores opera enwog Adelina Patti.

Roedd Craig y Nos unwaith yn gartref i’r gantores opera Adelina Patti, ‘Lady Gaga’ ei hoes. Mae ei gerddi bellach yn barc gwledig, yn agored i’r cyhoedd ac yn cael eu rheoli gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Daeth tîm creadigol Walk the Plank â rhai o fenywod talentog sy’n rhan o sîn ddiwylliannol de Cymru at ei gilydd i ddathlu’r Fam Ddaear yn y gerddi hardd lle bu Madame Patti ei hun yn canu.

Llyfr nodiadau’r digwyddiad

Mae’r safle ar ochrau gorllewinol Bannau Brycheiniog yn rhan o Geoparc Fforest Fawr, a gydnabyddir gan UNESCO oherwydd ei daeareg unigryw. Bu’r Cynhyrchwyr Creadigol Georgina Harris ac Angharad Evans yn gweithio gydag artistiaid cyfoes o Gymru, gan gynnwys y cyfansoddwr Tayla Leigh Payne, y bardd a’r canwr Teifi Emerald, yr awdur creadigol Jodie Bond a’r cwmni dawns Kitsch n Sync. Ysbrydolwyd y gwaith gan dirwedd Bannau Brycheiniog yn ogystal ag adleisiau Adelina, a dylanwadodd ar weithdai a gynhaliwyd mewn cymunedau yn ardaloedd Castell-nedd ac Abertawe.

Two Lumenators walking across a bridge

Llais Y Bannau - Agoriad

Trac wedi’i greu gan y cyfansoddwr Tayla-Leigh Payne

Un o'r perfformwyr wedi'i orchuddio â blodau

Roedd Madam Adelina Patti (1843-1919) yn fenyw hynod dalentog a ddaeth yn enwog am ganu pan roedd yn blentyn ac fe adeiladodd ar hynny drwy gydol ei hoes i fod yn chwedl yn ei hoes ei hun. Roedd hi’n actores fedrus, yn fenyw fusnes graff ac yn gantores opera uchel ei pharch. Roedd hi ar frig y Gymdeithas Fictoraidd, nid yn unig yn Ewrop ond hefyd ar lwyfan y byd.

Hi oedd yr ail fenyw fwyaf adnabyddus yn y byd yn y flwyddyn 1900, ar ôl y Frenhines Fictoria, ond mae hi bron yn angof erbyn heddiw.

Castell Craig-y-nos
Lleoliad Priodas a Llety

Roedd pobl yn mwynhau picnic gyda’r hwyr tra’n gwrando ar seinweddau hudolus wedi’u curadu gan Tayla-Leigh Payne drwy eu clustffonau. Yn y cyfamser, roedd cymeriadau rhyfeddol Kitsch a Sync wedi llithro’n dawel o amgylch y safle yn eu gwisgoedd cyn mynd ati i ryddhau Teifi o bafiliwn Madame Adelina Patti.

Teifi yn gwisgo ffrog wedi'i gwneud o ddeiliach go iawn
Mae menyw yn cerdded trwy'r dirwedd wedi'i gwisgo mewn planhigion

Fe wnaethom groesawu nifer o grwpiau cymunedol ymlaen llaw a fynychodd weithdai cerddoriaeth, creu ac ysgrifennu creadigol, cyn iddynt ddod i weld y Parc Cenedlaethol yn y nos. Roeddent yn cynnwys y prosiect Bywydau Iach (Bannau Brycheiniog) a phobl ifanc o Yo Vo – Your Voice Matters o Gastell-nedd Port Talbot.

Wedi mwynhau bod yn rhan o’r cynhyrchiad gwych hwn! diolch xx

@BethanNiaHarp
Twitter

Rhannodd arbenigwr y Geoparc, Alan Bowring, ei wybodaeth am y dirwedd rhewlifol a’r creigiau o dan ein traed; ac roedd y Big Skills Initiative yn cynnig gweithgareddau ymarferol i gyfranogwyr ymlaen llaw ac ar y noson.

Machlud ar y bannau brycheiniog

Gwybodaeth am Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Yn 1957, sefydlodd y DU ei 10fed Parc Cenedlaethol, sef Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ei hymdrechion parhaus i ailadeiladu’r wlad ar ôl y ddau Ryfel Byd. Gyda mynyddoedd a rhostir, meini hirion a chestyll, rhaeadrau byrlymus a chymunedau bywiog, mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lawer i’w gynnig i drigolion ac ymwelwyr. Mae gennym hanes hir a lliwgar a mytholeg a diwylliant amrywiol a chyfoethog. Mae ein Parc Cenedlaethol tua 42 milltir o led. At ei gilydd, mae’n cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o Dde a Chanolbarth Cymru, ychydig i’r gorllewin o Swydd Henffordd, ac mae’n cynnwys rhannau o Bowys, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Rhondda a Merthyr Tudful. Mae wedi’i enwi ar ôl y Bannau Canolog, sy’n amlwg iawn ar y nenlinell i’r de o Aberhonddu. Maen nhw’n codi i 886 metr ym Mhen y Fan, y copa uchaf yn ne Prydain

Mae rhai o’r traddodiadau a helpodd ac a siapiodd ein tirweddau a’n bywydau bob dydd wedi diflannu dros amser; mae eraill yn parhau hyd heddiw. Mae awyr y nos yn rhyfeddol. Mae wedi ennill cydnabyddiaeth i ni fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol.

Mae ein treftadaeth ddiwydiannol yn wych: mae Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ac mae ein creigiau’n adrodd eu hanes eu hunain. Maen nhw mor unigryw fel bod rhan fawr o’n Parc Cenedlaethol wedi cael ei dynodi’n Geoparc Ewropeaidd a Byd-eang.

Diolch i bob grŵp a gymerodd ran:

  • Big Skills initiative
  • Craggy Volunteers
  • Prosiect Bywydau Iach – Aberhonddu
  • Yo Vo – Your Voice Matters – Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Maesydderwen

Diolch i’n partneriaid a gefnogodd y digwyddiad hwn:

  • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • GeoBarc Fforest Fawr
  • Castell Craig-y-nos

Lluniau gan Mohamed Hassan a Grace Springer