Ar gyfer Goleuo’r Gwyllt, daeth cannoedd o gyfranogwyr, o bob cefndir, ynghyd ag artistiaid o Ogledd Cymru draw i Amlwch ar Ynys Môn i ddathlu tirwedd unigryw yr ynys a hawl pawb i grwydro cefn gwlad.
Lleoliad:
Amlwch
Taith i’r deyrnas Gopr… Mynydd Parys oedd y mwynglawdd copr mwyaf yn Ewrop ar un adeg. Roedd copr a metelau gwerthfawr eraill yn cael eu cloddio yno â llaw a’u hallforio gan longau’n hwylio o Amlwch.
Ar gyfer Goleuo’r Gwyllt, daeth cannoedd o gyfranogwyr, o bob cefndir, ynghyd ag artistiaid o Ogledd Cymru draw i Amlwch ar Ynys Môn i ddathlu tirwedd unigryw yr ynys a hawl pawb i grwydro cefn gwlad.
Ffurfiwyd y tîm creadigol gan dalent cyfoes Cymreig – Bardd – artistiaid lleol: Mr Phormula (Ed Holden), y bît bocsiwr enwog, a gafodd ei eni a’i fagu yn Amlwch; Martin Daws, yr artist geiriau, a’r aml-offerynnwr, Henry Horrell.
Bendant bod tyfu fyny yn Amlwch wedi helpu i ddylanwadu ar bwy ydw i fel artist a cherddor. Mae gen i lawer o atgofion hapus o’r ardal ac o dreulio oriau maith gyda ffrindiau a theulu, a dysgu am gerddoriaeth a sut mae cynnwys yr amgylchedd yn fy ngwaith
Aeth y Goleuwyr ar daith o amgylch y mwynglawdd fin nos, wrth wrando ar gymysgedd o drac sain dwyieithog, a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch, a barddoniaeth a cherddoriaeth gyfoes gan Bardd a greodd y seinwedd i gyd-fynd â’u taith. Roedd perfformiadau byw gan Bardd yn cynnwys llais Bethan Lloyd; wrth i dîm Walk the Plank ychwanegu naws danllyd hudolus, gan weithio gyda phobl ifanc o CircoPyro.
Mae Copr yn fetel arbennig iawn a hebddo, ni fyddai’r chwyldro technoleg ddigidol wedi bod yn bosib – y berthynas rhwng daeareg Gogledd Cymru a thechnoleg heddiw oedd yn gyfrifol am ein denu ni yma
Ar yr ail noson, gwahoddwyd pobl leol i gario golau ar lan y cei ym Mhorth Amlwch wrth i ni ffilmio ‘Vilma’, y llong hwylio draddodiadol, a’r bad achub newydd yng Nghemaes.
Roedd dros 400 o bobl yno yn gwylio’r cychodd a’u goleuadau copr yn gadael y porthladd, wrth iddynt ddod â stori’r Deyrnas Gopr i ben y tu hwnt i lannau Ynys Môn.
Mae Amlwch yn drysor cudd ac rydyn ni mor hapus bod prosiect cenedlaethol fel Goleuo’r Gwyllt wedi dewis cynnwys y Deyrnas Gopr fel rhan o’r ŵyl Unboxed. Rydych chi wedi taflu goleuni ar dreftadaeth a thalent y dref a gogledd Cymru
Cafwyd adloniant byw gan Eve Goodman, Cowbois Celtaidd a Poet for Life, a bu MC Gruffydd Wyn (seren Britain’s Got Talent, sy’n dod o’r ardal yn wreiddiol) yn cynnal y noson o’r llwyfan cyn canu’r baled Gymreig draddodiadol, Ar Lan Y Môr.
Cynhaliwyd gweithdai sgiliau syrcas gyda CircoArts ar y ddwy noson, ac fe aeth yr artistiaid lleol o Fôn: Simone Williams a Rhiannon Fogarty Wilkinson, ati i arwain gweithdai i’r teuluoedd a chreu delwedd a ysbrydolwyd gan ddarn o gelf o’r Oes Efydd a ddarganfuwyd ar yr Ynys.
Roedden ni’n croesawu grwpiau cymunedol amrywiol o bob rhan o’r ynys, fel Cylch Teulu a Tyddyn Môn; a rhai o bellach i ffwrdd hefyd, gan gynnwys teuluoedd o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru.
Roedd gan GeoMôn arbenigwyr wrth law yn ystod y digwyddiadau i oleuo daeareg unigryw’r ynys, ac roedd Canolfan Ymwelwyr y Deyrnas Gopr yn croesawu’r rheini a oedd wedi dod draw am y penwythnos.
Mae bron holl arfordir Ynys Môn, sy’n 201km o hyd, wedi’i ddynodi’n AHNE. Mae’r ynys yn cynnwys amrywiaeth eang o dirweddau arfordirol hyfryd ac mae’r AHNE yn cyd-daro â thri darn o Arfordir Treftadaeth. Mae rhai o’r creigiau hynaf ym Mhrydain, sef y Cymhlyg Mona cyn-Gambriaidd, yn ffurfio cefnenni isel a dyffrynnoedd bas llwyfandir y môr Ynys Môn. Mynydd Caergybi yw’r man uchaf (219m) ar yr ynys gyda golygfeydd pell anhygoel i Eryri. Mae clogwyni isel, bob yn ail â chilfachau, traethau cerrig a phentrefi sy’n swatio ynghudd, i’w gweld ar hyd glannau gogleddol yr ynys. Mae clogwyni calchfaen arfordir y dwyrain, gyda thraethau tywod mân ar wasgar, yn cyferbynnu’n llwyr â’r twyni tywod gwyllt yn y de sy’n rholio i lawr i Fae Aberffraw.
Mae cynefinoedd amrywiol, o rosydd morol i wastadeddau mwd, yn golygu bod llawer o ddiddordeb morol, botanegol ac adaregol yn gysylltiedig â’r AHNE. Mae twyni Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch yn enghraifft nodedig o’r cynefin cymhleth hwn ac mae clogwyni calchfaen yr ynys yn safle nythu pwysig.
Mae gan Ynys Môn dirwedd hanesyddol bwysig, gyda’i safleoedd gwarchodedig yn amrywio o siambrau claddu o’r Oes Efydd i Safle Treftadaeth y Byd canoloesol – Castell Biwmares. Mae dwy ardal yn yr AHNE wedi’u rhestru yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol yng Nghymru.
Yn draddodiadol, mae economi wledig yr AHNE yn seiliedig ar ddaliadau amaethyddol cymysg bach, er bod y nifer wedi gostwng 44 y cant ers 1945. Mae diwydiant lleol arwyddocaol sy’n cael ei ysgogi gan yr AHNE yn cynnwys gorsaf bŵer niwclear Wylfa. Nid yw’r AHNE yn cynnwys unrhyw drefi mawr ac mae trigolion ei phentrefi arfordirol yn teithio’n gynyddol i weithio ar y tir mawr.
Diolch i bob grŵp a gymerodd ran:
Diolch i’n partneriaid a gefnogodd y digwyddiad hwn:
Ffotograffiaeth gan Acey Media a Geraint Thomas, Panorama Photography.