Mae’r datganiad Hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan (greenspacedarkskies.uk) i Walk the Plank Ltd. ac yn cael ei rheoli ganddo (“y wefan hon” / “ein gwefan” / “y wefan”)
Mae Goleuo’r Gwyllt yn brosiect sy’n cael ei ddarparu gan Walk the Plank Ltd.
Mae ‘Goleuo’r Gwyllt’ yn nod masnach cofrestredig.
Mae Walk the Plank yn un o brif sefydliadau celfyddydau awyr agored y DU. Mae ei wreiddiau yng Ngogledd Orllewin Lloegr ond mae’n gweithio’n rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae wedi ennill gwobrau. Rydyn ni’n cydweithio â chymunedau amrywiol i gyfoethogi bywydau drwy rannu profiadau creadigol. Rydyn ni’n creu gwaith sy’n gwneud i bobl deimlo’n falch, teimlo hunaniaeth a chael naws am le.
Mae Walk the Plank yn gwmni cyfyngedig drwy warant yng Nghymru a Lloegr, Rhif 03028447. Mae Walk the Plank Fireworks yn is-gwmni i Walk the Plank, cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 03664585.
Swyddfa gofrestredig Walk the Plank yw Cobden Works, 37-41 Cobden Street, Salford M6 6WF.
Ymrwymiad
Mae Walk the Plank wedi ymrwymo i ddarparu gwefan sy’n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl, heb ystyried technoleg na gallu. Rydyn ni’n gweithio’n galed i wneud ein gwefan yn fwy hygyrch ac yn haws ei defnyddio a drwy wneud hynny rydyn ni’n dilyn nifer o’r safonau a’r canllawiau sydd ar gael.
Canllawiau a safonau
Nod y wefan hon yw cydymffurfio â lefel A-ddwbl y World Wide Web Consortium (W3C) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1.
Mae’r canllawiau hyn yn egluro sut i wneud cynnwys gwe yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau. Bydd cydymffurfio â’r canllawiau hyn yn helpu i wneud y wefan yn haws i bawb ei defnyddio.
Mae’r safle hwn wedi cael ei adeiladu gan ddefnyddio cod sy’n cydymffurfio â safonau W3C ar gyfer HTML a CSS. Mae’r safle’n ymddangos yn gywir mewn porwyr cyfredol ac mae defnyddio cod HTML/CSS sy’n cydymffurfio â safonau yn golygu y bydd unrhyw borwyr yn y dyfodol hefyd yn ei ddangos yn gywir.
Mae gan unrhyw ddogfen sydd ar gael i’w llwytho i lawr o’n gwefan ddolen sy’n dweud wrthych pa mor fawr ydyw a pha fath o ddogfen ydyw.
Eithriadau
Er bod Walk the Plank yn ymdrechu i lynu wrth y canllawiau a’r safonau derbyniol ar gyfer hygyrchedd a defnyddioldeb, nid yw bob amser yn bosibl gwneud hynny ym mhob rhan o’r wefan.
Gwybodaeth Gyswllt
Rydyn ni bob amser yn chwilio am atebion a fydd yn golygu bod pob rhan o’r safle yn cyrraedd yr un lefel gyffredinol o ran hygyrchedd gwe. Yn y cyfamser, os cewch chi unrhyw drafferthion wrth ddefnyddio gwefan Walk the Plank, mae croeso i chi gysylltu â ni ar