Manylion

20,000 O BOBL MEWN HYD AT 20 DIGWYDDIAD YN NHIRWEDD HARDD Y DU

Ar gyfer Goleuo’r Gwyllt, bydd 20,000 o bobl o bob cefndir yn dod yn Oleuwyr a phob un yn cario golau i’r dirwedd. Gyda’n gilydd, byddwn yn helpu i oleuo mannau gwyrdd hardd ledled y DU. Dychmygwch filoedd o oleuadau’n gwneud patrymau ar fynyddoedd, llynnoedd a gweundir ar hyd a lled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd hyd at 20 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal rhwng mis Ebrill a mis Medi 2022 ac yn cael eu harwain gan yr arbenigwyr celfyddydau awyr agored Walk the Plank. Byddwn yn mynd â’r genedl ar daith drwy ein Parciau Cenedlaethol a’n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, hyd at uchafbwynt y diweddglo ar draws y DU a fydd yn cael ei ddarlledu i filiynau o bobl. Mae’r rhain yn llefydd caiff unrhyw un ymweld â nhw, unrhyw bryd, am ddim. Ond rydyn ni’n gwybod nad yw pawb yn teimlo eu bod yn gallu defnyddio’r ardaloedd hyn. Mae Walk the Plank yn gwahodd pobl nad ydynt fel arfer yn profi cefn gwlad i gymryd rhan a rhannu eu straeon – cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.

Gallwch ymuno ar eich pen eich hun, gyda theulu a ffrindiau neu mewn grŵp wedi’i drefnu, i gyd am ddim.

Mae Goleuo’r Gwyllt yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y Deyrnas Unedig, sef dathliad arloesol o greadigrwydd ledled y DU yn ystod 2022. Mae’n un o ddeg prosiect mawr a fydd yn dathlu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg. Mae Walk the Plank yn gweithio gyda phartneriaid i greu rhywbeth nad yw erioed wedi cael ei wneud o’r blaen. Mae Siemens yn datblygu’r goleuadau arbennig y bydd y Goleuwyr yn eu cario, drwy ddefnyddio technoleg fodern. Bydd Goleuo’r Gwyllt hefyd yn brosiect carbon bositif net, gan leihau mwy o garbon nag y mae’n ei gynhyrchu.

Y nod yw gadael dim ôl, a grymuso pawb sy’n gysylltiedig i wneud gwahaniaeth yn lleol. Yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, bydd miloedd o Oleuwyr yn gofalu am fyd natur i’r dyfodol.

Mae ailgysylltu pobl â’u tirwedd leol yn hollbwysig gan fod hynny’n gofalu am iechyd corfforol a meddyliol rhywun yn ogystal â llesiant emosiynol.

Lisa Crausby
Cyfarwyddwr Gweithredol: Education, Star Academies