Mae Goleuo’r Gwyllt yn gwahodd 20,000 o bobl, o bob cefndir, i deithio i’r dirwedd gyda’i gilydd. Yno, byddan nhw’n goleuo lleoliadau gwyllt a phrydferth ar hyd a lled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wrth iddi nosi. Bydd pob digwyddiad yn agored i bawb ac yn dathlu byd natur, ein cyfrifoldeb i’w ddiogelu a hawl pawb i grwydro cefn gwlad. Bydd Goleuo’r Gwyllt ar waith rhwng mis Ebrill a mis Medi 2022 ac mae’n cael ei arwain gan yr arloeswyr celfyddydau awyr agored Walk the Plank.
Mae Walk the Plank a thîm y prosiect yn cael eu harwain gan y credoau hyn:
Mae ar Goleuo’r Gwyllt eisiau clywed eich straeon am gefn gwlad. Efallai eich bod wrth eich bodd yno, neu efallai eich bod yn teimlo nad oes croeso i chi yno. Efallai nad ydych chi’n gallu cyrraedd mannau gwyrdd o gwbl. Y naill ffordd neu’r llall, mae eich straeon yn bwysig – ac rydyn ni eisiau i chi ddweud wrthym beth sydd ei angen arnoch er mwyn gallu cymryd rhan yn y prosiect arbennig hwn. Wrth i ni wynebu argyfwng hinsawdd ac wrth i’r angen i ailgysylltu â byd natur ddod yn bwysicach nag erioed. Dyma gyfle i gael antur – cwrdd â phobl newydd, teithio gyda ni i lefydd newydd a dod at ein gilydd i oleuo’r dirwedd.
Mae Goleuo’r Gwyllt yn agored i bawb, a gall unrhyw un gofrestru i gymryd rhan. Cewch gymryd rhan am ddim, a gallwch ymuno ar eich pen eich hun, gyda theulu a ffrindiau, neu gyda mudiad. Byddwn yn teithio i rai o dirweddau mwyaf prydferth a gwyllt y DU. Mae’r rhain yn llefydd caiff unrhyw un ymweld â nhw, unrhyw bryd, am ddim. Ond rydyn ni’n gwybod nad yw pawb yn teimlo eu bod yn gallu defnyddio’r ardaloedd hyn. Rydyn ni o’r farn y dylai bob un ohonom deimlo bod croeso i ni grwydro ein mannau gwyrdd. Nod Walk the Plank yw ei gwneud hi’n bosibl i unrhyw un gymryd rhan, ond dim ond y rheini sydd wedi cofrestru i gymryd rhan fydd yno’n bersonol ym mhob digwyddiad. Gyda’n gilydd, byddwn yn dangos bod cefn gwlad ar gyfer pob un ohonom ni.
Rydyn ni eisiau i chi gario golau a’n helpu i greu digwyddiad hudolus a chofiadwy yn yr awyr agored. Bydd hyd at 20 o wahanol leoliadau cyfrinachol ar hyd a lled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon lle gallwch ymuno. Nid oes yn rhaid talu i gymryd rhan ac mae croeso cynnes i bawb gofrestru – a dweud y gwir, rydyn ni eisiau i chi ddweud wrthym beth sydd ei angen arnoch er mwyn i chi allu cymryd rhan.
Gyda’n gilydd, byddwn yn dathlu byd natur, yn dangos bod cefn gwlad yn eiddo i bob un ohonom, ac mai ein gwaith ni yw ei ddiogelu.
Mae Goleuo’r Gwyllt yn digwydd mewn tirweddau gwyllt a hardd ar hyd a lled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd Goleuo’r Gwyllt yn brosiect carbon bositif net, gan helpu i leihau mwy o garbon nag y mae’n ei gynhyrchu. Y nod yw gadael dim ôl, a helpu pawb sy’n gysylltiedig i wneud gwahaniaeth yn eu hardal leol hefyd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn gofalu am natur ar gyfer y dyfodol.
Os nad oes gennych chi ddiddordeb emosiynol yn yr awyr agored go iawn, yr awyr agored gwyllt, sut mae disgwyl i chi boeni dim am yr amgylchedd?