Mae’r datganiad hwn ynghylch moeseg, amrywiaeth a gwrth-gaethwasiaeth yn berthnasol i’r wefan (greenspacedarkskies.uk) Goleuo’r Gwyllt sy’n berchen i Walk the Plank Ltd ac yn cael ei reoli ganddo (“y wefan hon” / “ein gwefan” / “y wefan”).
Mae Goleuo’r Gwyllt yn brosiect sy’n cael ei ddarparu gan Walk the Plank Ltd.
Mae ‘Goleuo’r Gwyllt’ yn nod masnach cofrestredig.
Pwy ydyn ni
Mae Walk the Plank yn un o brif sefydliadau celfyddydau awyr agored y DU. Mae ei wreiddiau yng Ngogledd Orllewin Lloegr ond mae’n gweithio’n rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae wedi ennill gwobrau. Rydyn ni’n cydweithio â chymunedau amrywiol i gyfoethogi bywydau drwy rannu profiadau creadigol. Rydyn ni’n creu gwaith sy’n gwneud i bobl deimlo’n falch, teimlo hunaniaeth a chael naws am le.
Mae Walk the Plank yn gwmni cyfyngedig drwy warant yng Nghymru a Lloegr, Rhif 03028447.
Mae Walk the Plank Fireworks yn is-gwmni i Walk the Plank, cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 03664585.
Swyddfa gofrestredig Walk the Plank yw Cobden Works, 36-41 Cobden Street, Salford M6 6WF.
Mae’r datganiad moeseg, amrywiaeth a gwrth-gaethwasiaeth hwn yn berthnasol i’r holl endidau uchod.
Mae Walk the Plant yn sefydliad elusennol sy’n canolbwyntio ar ddenu ystod ehangach o gymunedau ac artistiaid i gymryd rhan mewn celfyddydau a diwylliant, ac mae’n gweithio’n foesegol ar bob lefel. Rydyn ni’n aelodau o MAST, Tîm Cynaliadwyedd Celfyddydau Manceinion sef cydweithfa o gyrff celfyddydol o’r un anian sydd wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd gynaliadwy drwy rannu adnoddau a dileu gwastraff.
Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo’n llwyr i greu sefydliad sydd mor amrywiol â’r cynulleidfaoedd a’r diwylliannau sy’n mwynhau ein gwaith. Rydyn ni’n mynd ati’n rhagweithiol i recriwtio pobl o’r gymuned BAME i weithio gyda ni ar ein sioeau ac mewn swyddi sy’n cael eu hysbysebu yn ein tîm craidd. Mae rhai o’n cydweithrediadau artistig newydd, fel yr un gyda’r cwmni theatr anabl Mind the Gap a Manchester PRIDE, yn dangos ein bod yn ceisio creu portffolio gwirioneddol amrywiol a chynhwysol o waith sy’n ymgysylltu â sbectrwm mor eang â phosibl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae Walk the Plank yn gwrthwynebu pob math o gaethwasiaeth, ac rydyn ni’n monitro ein cadwyn gyflenwi i sicrhau nad yw’n chwarae unrhyw ran yn ein busnes. Os bydd unrhyw dystiolaeth o gaethwasiaeth fodern yn dod i’r amlwg drwy unrhyw un o’n hasesiadau o gyflenwyr, ni fyddwn yn oedi cyn rhoi gwybod i’r awdurdodau perthnasol. Mae proses Diwydrwydd Dyladwy Walk the Plank yn eang ac mae’n cael ei defnyddio gan ein timau Cynhyrchu a Chymorth Craidd. Mae’r broses yn cynnwys cwestiynau penodol ynghylch ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern a chydymffurfiad â’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern ochr yn ochr â gofynion deddfwriaethol eraill fel Gwyngalchu Arian, Cyllid Troseddol a’r Ddeddf Llwgrwobrwyo.
– Medi 2021