Yn adnabyddus ym mhedwar ban byd, yr arbenigwyr celfyddydau awyr agored Walk the Plank yw’r bobl sydd y tu ôl i Goleuo’r Gwyllt. Mae’r tîm yn Salford yn gweithio ar y prosiect gyda chriw o bartneriaid gwych: Siemens, Parciau Cenedlaethol y DU, Prifysgol Salford, a Landscapes for Life: Cymdeithas Genedlaethol Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Extraordinary Bodies, y cydweithrediad rhwng Diverse City a Cirque Bijou, a CC-Lab.
Mae’r partneriaid eraill yn cynnwys Extraordinary Bodies, prif gwmni syrcas integredig y DU, sy’n croesawu pobl o bob oed a gallu, a bydd yn helpu Walk the Plank i weithio gydag ac ar ran pobl o bob cefndir; a CC-Lab, cwmni cynhyrchu ffilmiau a fydd yn dogfennu ac yn cynhyrchu’r ffilmiau ar gyfer ein holl ddigwyddiadau.
Mae prosiect Goleuo’r Gwyllt yn gweithio gyda phartneriaid yn genedlaethol, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n cynnal wyth digwyddiad ledled y DU, a Natural England sy’n darparu cyngor am dirweddau gwarchodedig gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.
Mae Goleuo’r Gwyllt yn un o’r deg prosiect mawr a gafodd eu dewis ar gyfer UNBOXED: Creadigrwydd yn y Deyrnas Unedig, sef dathliad o greadigrwydd ledled y DU yn ystod 2022. Mae pob un o’r partneriaid wedi cymryd rhan o’r cychwyn cyntaf: gyda’i gilydd, maen nhw wedi helpu i siapio’r syniadau ar gyfer y prosiect a’i roi ar waith. Bydd tîm Walk the Plank yn ymgysylltu â’r Goleuwyr – yr 20,000 o bobl a fydd yn cario golau – ac yn gweithio gydag artistiaid i drefnu’r digwyddiadau, gan gynnwys diogelwch a gosodiadau technegol.
Nod gŵyl UNBOXED yw archwilio creadigrwydd drwy Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celfyddydau a Mathemateg (STEAM)