Yn ôl I: Partneriaid

Ardaloedd o harddwch naturiol eithriado

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol y DU yw rhai o dirweddau mwyaf eiconig a phrydferth y genedl. Mae dwy ran o dair o’r boblogaeth o fewn hanner awr o deithio at eu Hardal o Harddwch Naturiol Eithriadol agosaf. Sefydlwyd Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ôl yn 1949 fel chwiorydd i’r GIG – un i gynnal iechyd corfforol pobl, y llall i ofalu am lesiant y genedl.

Mae’r tîm y tu ôl i Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol y DU yma i ddarparu ysbrydoliaeth, adloniant ac adfywiad ysbrydol.

Mae Goleuo’r Gwyllt yn ffordd newydd i ni groesawu rhagor o’r bobl y mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn gefn gwlad godidog iddynt ar garreg eu drws: pawb.

1
2

Mae’r Partneriaethau Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn falch o fod yn bartneriaid ym mhrosiect Goleuo’r Gwyllt. Mae timau’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn gofalu am nifer o safleoedd y digwyddiadau sydd agosaf at ganolfannau poblogaeth. Mae timau’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cefnogi’r cyswllt â thirfeddianwyr, trigolion lleol a defnyddwyr tir ynghylch gosodiadau a digwyddiadau’r prosiect ac yn sicrhau eu bod yn ddiogel nid yn unig i’r rheini sy’n cymryd rhan ond hefyd i gynefinoedd, i ecosystemau ac i fywyd gwyllt.

Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol y DU yn gartref i rai o safleoedd awyr dywyll gorau’r wlad – ac am un noson yn unig rydyn ni’n falch o oleuo’r awyr gyda chynulleidfaoedd hen a newydd, gan greu profiadau gwych a helpu i adeiladu cymunedau.

Mae 46 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn y DU. Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn dirwedd y mae ei chymeriad unigryw a’i harddwch naturiol mor werthfawr ei bod yn cael ei diogelu er budd y genedl. Mae lleoliad, daeareg a math o dirwedd yn creu mwy na dim ond golygfa – maen nhw’n dylanwadu ar y tywydd, y rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid sy’n ffynnu, y diwydiannau sy’n tyfu, a’r dreftadaeth, y bensaernïaeth, y dafodiaith a’r traddodiadau lleol. Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cyfuno diwylliant a harddwch naturiol, gan groesawu pobl o bob cwr o’u rhanbarthau a’r tu hwnt. Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn fyw, yn anadlu, yn gweithio; mae yno arloesedd sydd â’i wreiddiau mewn hanes.

Autumn on the lower Wye

Tîm Goleuo’r Gwyllt

Dewch i gwrdd â’r bobl sy’n dod â Goleuo’r Gwyllt yn fyw. Maen nhw’n adnabyddus ym mhedwar ban byd, ac maen nhw wedi bod yn gweithio yn yr awyr agored ers 30 mlynedd