Yn ôl I: Partneriaid

Ein partneriaid cenfogol

Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid cenedlaethol sy’n cynnal nifer o ddigwyddiadau ar eu tir neu mewn tirweddau y maent yn eu rheoli, ac sydd hefyd yn darparu gwybodaeth werthfawr am ecoleg, defnydd tir a gofynion cadwraeth i alluogi digwyddiadau Goleuo’r Gwyllt i gael eu cynnal mewn lleoliadau ledled y DU.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn elusen gadwraeth a sefydlwyd yn 1895 gan dri o bobl: Octavia Hill, Syr Robert Hunter a Hardwicke Rawnsley, a oedd yn gweld pwysigrwydd treftadaeth a mannau agored y genedl ac a oedd eisiau eu cadw i bawb eu mwynhau.

Sea Holly and grass on the side of a sand dune in Whiteford Burrows.

Llun: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, David Noton

National Trust Logo with a winding path in background - Minnowburn County Down

Wedi’u cynnal mewn Lleoedd o Ddiddordeb Hanesyddol neu o Harddwch Naturiol, a gofalir amdanynt gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Heddiw, ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, rydym yn parhau i ofalu am lefydd fel bod pobl a natur yn gallu ffynnu.

Rydyn ni’n gweithio i greu cartrefi ar gyfer bywyd gwyllt, i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac i ddod â byd natur yn ôl i’n trefi a’n dinasoedd – er mwyn creu amgylchedd naturiol iachach a mwy prydferth.

Natural England

Natural England yw ymgynghorydd y llywodraeth dros yr amgylchedd naturiol yn Lloegr. Rydyn ni’n helpu i ddiogelu ac adfer ein byd naturiol.

Broads National Park, house in distance reflected in water at sunset

Llun: Geoffrey Tibbenham

Natural England Logo with Dartmoor National Park in background

Mae Natural England yn gorff cyhoeddus anadrannol gweithredol sy’n cael ei noddi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Ein pwrpas yw helpu i warchod, gwella a rheoli’r amgylchedd naturiol er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, a thrwy hynny gyfrannu at ddatblygu’n gynaliadwy.

Ein gweledigaeth yw ‘Diogelu Natur ar gyfer pobl a’r blaned’ a’n nod yw cyflawni hyn drwy ein cenhadaeth ‘Creu partneriaethau ar gyfer adfer natur’.