Yn ôl I: Partneriaid

PARCIAU CENEDLAETHOL Y DU

Mae tirweddau Parciau Cenedlaethol y DU yn llawn ysbrydoliaeth. Cenhadaeth Parciau Cenedlaethol y DU yw tanio’r ysbrydoliaeth honno ac annog y genedl i ofalu am ein holl fannau gwyrdd a glas. Mae hwn yn gylch rhinweddol, oherwydd bod gwyddoniaeth yn dangos cydberthynas uniongyrchol rhwng llesiant rhywun a’i gysylltiad â byd natur. Mae natur yn gofalu am bawb os ydyn ni’n caniatáu iddo wneud hynny. Bydd Goleuo’r Gwyllt yn ein helpu i chwalu rhwystrau er mwyn gwireddu hynny.

01
02

Roedd Parciau Cenedlaethol y DU wedi helpu i greu prosiect Goleuo’r Gwyllt. Rydyn ni’n bartneriaid darparu a byddwn ni’n darparu’r lleoliadau ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau’r prosiect. Mae Parciau Cenedlaethol y DU – ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol – yn cefnogi’r cyswllt â thirfeddianwyr, trigolion lleol a defnyddwyr tir ynghylch digwyddiadau’r prosiect, gan sicrhau hefyd eu bod yn ddiogel nid yn unig i’r rheini sy’n cymryd rhan ond hefyd i gynefinoedd, i ecosystemau ac i fywyd gwyllt lleol.

Mae gan Barciau Cenedlaethol berthynas waith hir â nifer o’r grwpiau a’r mudiadau cymunedol arbenigol sy’n ein helpu i sicrhau bod y digwyddiadau’n agored i drawstoriad mor eang â phosibl o boblogaeth y DU.

NID EIN HEIDDO NI – OND WEDI EU HYMDDIRIED I’N GOFAL

Mae 15 Parc Cenedlaethol yn y DU, sy’n cynrychioli 10% o’i thir. Mae pob un wedi cael ei ddynodi’n dirwedd warchodedig oherwydd ei nodweddion arbennig.

Mae tirweddau sydd gyda’r gorau yn y byd yn gallu ysbrydoli pawb. Mae Parciau Cenedlaethol y DU wedi cael eu dynodi ar ran y genedl gyfan oherwydd eu prydferthwch naturiol trawiadol, eu bywyd gwyllt anhygoel a’u treftadaeth ddiwylliannol ddifyr. Mae’r nodweddion hyn yn golygu bod y tirweddau hyn o fywyd a gwaith yn wirioneddol unigryw.

Mae ein Parciau Cenedlaethol yn cael eu hariannu gan lywodraethau datganoledig y DU ac mae ganddyn nhw ddibenion penodol a nodir mewn cyfraith: cadwraeth, gwella, cynaliadwyedd a mwynhad. Mae’r pedwar gair hyn wrth galon yr holl Barciau Cenedlaethol.

Mae Parciau Cenedlaethol y DU yn wahanol i’r rhan fwyaf yn y byd oherwydd bod pobl yn byw ac yn gweithio yno. Prif her ein hoes yw sut mae byw ar y blaned hon a gofalu amdani er mwyn iddi hithau, yn ei thro, allu gofalu amdanom ni. Mae’r gwaith mae’r Parciau Cenedlaethol wedi bod yn ei wneud ers 70 mlynedd yn y DU yn ficrocosm o’r her honno. Mae Goleuo’r Gwyllt yn helpu i sicrhau bod y sgyrsiau sy’n rhan annatod o’r heriau hyn yn hygyrch ac yn berthnasol i gynulleidfaoedd newydd. Mae’n gwneud hynny mewn ffordd sy’n creu lle diogel ar gyfer trafodaethau heriol a hyblyg am ein hawliau, ein cyfrifoldebau a’n perthynas â byd natur. Yn hollbwysig, mae’n gwella ein dealltwriaeth a’n hymwybyddiaeth o’r hyn sy’n rhwystro rhai cymunedau yn y DU rhag cael mynediad at fannau gwyrdd – y cam cyntaf tuag at chwalu’r rhwystrau hynny.

Alastair Barber
Creative Advisor
Cairngorms Glen

Ffotograff: David Russell

Tîm Goleuo’r Gwyllt

Dewch i gwrdd â’r bobl sy’n dod â Goleuo’r Gwyllt yn fyw. Maen nhw’n adnabyddus ym mhedwar ban byd, ac maen nhw wedi bod yn gweithio yn yr awyr agored ers 30 mlynedd