Yn ôl I: Partneriaid

Partneriaid Craidd

The Green Space Dark Skies team are working with creative partners in each of the event locations in England, Scotland, Wales and Northern Ireland to make connections with local community groups to uncover their experiences of nature through creativity and become Lumenators.

Extraordinary Bodies

Sefydlwyd Extraordinary Bodies ddeng mlynedd yn ôl ac mae’n bartneriaeth sy’n torri ffiniau rhwng ymarferwyr cynhwysiant ac amrywiaeth blaenllaw ym maes y celfyddydau Diverse City a’r cynhyrchwyr sioeau rhyfeddol Cirque Bijou. Cafodd ei greu i ddangos sut fyddai’r byd petai pawb yn cael ei werthfawrogi i’r un graddau, petai gwahaniaeth yn cael ei ddathlu, ac i ysbrydoli pobl i ailystyried eu potensial eu hunain a photensial pobl eraill, oherwydd ‘os gallwch ei weld, gallwch ei wneud’.

1
2

Cafodd Extraordinary Bodies wahoddiad gan Walk the Plank i gyd-gyfarwyddo rhai o elfennau Goleuo’r Gwyllt yn Ne Orllewin Lloegr. Gan weithio’n agos gyda chymunedau a chydag artistiaid o’n cwmni, rydyn ni’n ystyried mynediad sylfaenol ac yn enwedig thema prinder dŵr yn y dirwedd gynoesol ragorol hon.

Rydyn ni mor falch o fod yn rhan o brosiect Goleuo’r Gwyllt.  Mae agor ac animeiddio’r tirweddau prydferth hyn yn freuddwyd artistig, ac mae gweithio mewn llefydd a gyda chymunedau sy’n newydd i ni yn eithriadol o gyffrous. Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at y daith.

Jamie Beddard
Prif Artist, Extraordinary Bodies

CC-Lab

Mae CC-Lab wedi ennill gwobrau am greu teledu cyffrous, arloesol a diddorol, cynnwys digidol a phrofiadau byw. Mae’r cwmni wedi’i leoli yn Llundain ac mae ein gwaith wedi mynd â ni i bob cwr o’r byd.

Rydym yn frwd iawn dros Gerddoriaeth a’r Celfyddydau. Rydym yn arbenigo mewn cynhyrchu digwyddiadau Byw. Rydym yn cydweithio â chyfarwyddwyr, cynhyrchwyr a phobl greadigol sydd wedi ennill gwobrau. Rydym yn frwd dros adrodd straeon.

01
02

Mae CC-Lab yn falch o fod yn bartner cynhyrchu cynnwys a darlledu ar gyfer prosiect Goleuo’r Gwyllt.

Mae Walk The Plank bob amser yn dathlu’r celfyddydau a diwylliant mewn ffordd anhygoel. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda nhw i gynhyrchu cynnwys ystyrlon sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant, ar yr un pryd â dathlu doniau sydd gyda’r gorau yn y byd a chyflwyno straeon ysbrydoledig Goleuo’r Gwyllt i gynulleidfa fawr.

CC-Lab

Activate

Mae Activate yn creu cyfleoedd i bawb drwy’r celfyddydau perfformio. Ers dros 30 mlynedd, rydym wedi bod yn hyrwyddo, yn cefnogi ac yn cynhyrchu rhai o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous yn y DU. Rydym yma i ddod â’r celfyddydau perfformio i gynifer o bobl â phosib. A rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl greadigol i wneud gwaith eithriadol.

01
02

Rydym yn dod â digwyddiadau o’r radd flaenaf i lefydd annisgwyl, fel canol trefi, sgwariau pentref, traethau a phen bryniau. Ein nod yw chwalu rhwystrau a chyrraedd y cynulleidfaoedd ehangaf posibl, gan ddathlu ein tirwedd naturiol a’n hymdeimlad o le. Mae cefnogi ein cymuned celfyddydau perfformio wrth galon popeth a wnawn.

Bydd Activate yn gynhyrchydd ar gyfer prosiect Goleuo’r Gwyllt yn Dorset.  Byddwn yn helpu i recriwtio’r goleuwyr o bob rhan o’r sir a byddwn yn gweithio gyda’r artistiaid i greu perfformiad sy’n benodol i’r safle a fydd yn ysbrydoli’r genedl.

Byddwn yn defnyddio ein blynyddoedd lawer o brofiad o gynhyrchu gwaith artistig ar raddfa fawr yn ein gŵyl Inside Out Dorset a digwyddiadau cysylltiedig.

Daeth gŵyl Inside Outn Dorset â chynulleidfaoedd yn nes at fyd natur gyda theithiau cerdded wedi’u harwain gan sêr roc, dawnsfeydd palu a glôb wedi’i hongian mewn coetir

The Guardian

Red Herring Productions

Cwmni theatr wedi’i leoli yn Bideford yng Ngogledd Dyfnaint yw Red Herring. Rydym yn arbenigo mewn perfformiadau rhyngweithiol, awyr agored sy’n pylu’r ffiniau rhwng y perfformiad a’r gynulleidfa.

Mae ein perfformiadau yn hwyliog, yn ddoniol, yn ennyn chwilfrydedd ac yn ystyriol. Rydym yn edrych yn ochrol ar y byd rydym yn byw ynddo, ac yn annog pobl i brofi lleoedd cyfarwydd a storïau cyfarwydd mewn ffyrdd anghyfarwydd.

Families in the woods taking part in an outdoor interactive performance
Red Herring Productions Logo

Rydym yn gwneud perfformiadau ar gorneli stryd, mewn parciau trefol, ac mewn lleoliadau gwledig, mwy diarffordd. Mae ein prosiectau’n cynnwys cyfnod o ymchwil lle rydym yn darganfod cymaint ag y gallwn am y lle, a’r bobl sy’n byw yno, ac os oes modd rydym yn cynnig gweithdai a chyfleoedd eraill i gymryd rhan.

Mae Red Herring yn falch o fod yn rhan o’r rhaglen genedlaethol ysbrydoledig hon. Rydym yn teimlo’n gyffrous wrth wahodd pobl sy’n byw ac yn gweithio yn Exmoor, ac yn ardal ehangach Gogledd Dyfnaint a Gorllewin Somerset, i gymryd rhan yn y digwyddiad unigryw hwn.  Digwyddiad a fydd yn dangos eu balchder a’u cysylltiad â thirweddau lleol anhygoel Exmoor, y tir o dan eu traed.  Bydd llawer erioed wedi profi dim byd tebyg i hyn o’r blaen – mae’n mynd i fod yn hwyl!”

Red Herring Productions

Tîm Goleuo’r Gwyllt

Dewch i gwrdd â’r bobl sy’n dod â Goleuo’r Gwyllt yn fyw. Maen nhw’n adnabyddus ym mhedwar ban byd, ac maen nhw wedi bod yn gweithio yn yr awyr agored ers 30 mlynedd