Yn ôl I: Partneriaid

PRIFYSGOL SALFORD

Fel Prifysgol flaenllaw, rydyn ni’n esblygu’n barhaus i ddiwallu anghenion myfyrwyr, cymdeithas a diwydiant – ac i aros ar flaen y gad mewn ymchwil fyd-eang ar y materion sy’n effeithio ar bob un ohonom. Mae’r arloesedd hwn, a’n treftadaeth ddiwydiannol, wrth galon yr hyn a wnawn.

Mae pwyslais Goleuo’r Gwyllt ar greadigrwydd ac arloesedd yn cyd-fynd â phopeth sy’n bwysig i ni. Rydyn ni’n un o’r prif ganolfannau ar gyfer addysg seiliedig ar ymarfer yn y disgyblaethau creadigol yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Ni yw’r unig brifysgol sydd â phresenoldeb yn MediaCityUK felly rydyn ni wrth galon un o glystyrau digidol a chreadigol mwyaf Ewrop.

uos1
uos2

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Walk the Plank i ddatblygu rhywfaint o’r ymgysylltu â’r cyhoedd ar raddfa fawr ar gyfer Goleuo’r Gwyllt.

Gallai’r bartneriaeth arwain at gynnig hyd at 500 o brofiadau i fyfyrwyr drwy friffiau byw, lleoliadau a chyfleoedd cwricwlwm ychwanegol sydd o fudd i brofiad y myfyrwyr. Ein nod yw defnyddio academyddion o bob lefel, o israddedigion i fyfyrwyr PhD.

Mynd amdani

Mae ein dull blaengar wedi sbarduno cynnydd ers 125 mlynedd. Heddiw, mae ein sefydliad di-stop yn cael ei ategu gan fentrau di-rif gyda diwydiannau a rhaglenni ymchwil arloesol. Rydyn ni’n creu cymuned addysg sy’n ffynnu yn Salford a’r tu hwnt.

Mae cymuned ein prifysgol yn cynnwys dros 23,000 o fyfyrwyr, 2,500 o staff a 170,000 o gyn fyfyrwyr sy’n dod yma o bob cwr o’r byd i astudio, i addysgu ac i ymchwilio. Rydyn ni wedi ymrwymo i wella canlyniadau i bobl, i gymunedau, i’r economi ac i’r amgylchedd drwy bopeth a wnawn.

Drwy addysgu, dysgu, ymchwil a menter, byddwn yn harneisio sgiliau, dychymyg a brwdfrydedd ein myfyrwyr a’n staff i weithio mewn partneriaeth gyda mentrau mawr a bach ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol. Bydd y partneriaethau hyn yn helpu i newid pobl a chymunedau, gan sicrhau budd economaidd a chymdeithasol parhaol.

Rydyn ni’n bwriadu gweithio mewn ffordd ryngddisgyblaethol iawn, gyda phob ysgol yn chwarae rhan hollbwysig. Bydd y bartneriaeth gyda Goleuo’r Gwyllt yn defnyddio’r holl gymuned academaidd, o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i ymgeiswyr am PhD a staff ymchwil academaidd.

Sam Ingleson
Deon Cysylltiol: Ymgysylltu, Menter a Phartneriaethau yn Ysgol y Celfyddydau, Cyfryngau a Thechnoleg Greadigol, Prifysgol Salford

University of Salford Tîm

  • Sam Ingleson delwedd proffil

    Sam Ingleson

    Associate Dean: Engagement, Enterprise and Partnerships in the School of Arts, Media and Creative Technology, University of Salford

  • Catrina Page delwedd proffil

    Catrina Page

    University Engagement Liaison Manager, Walk the Plank

  • Maria Dickinson delwedd proffil

    Maria Dickinson

    Communications Lead, University of Salford