MAE SIEMENS YN BARTNER TECHNOLEG I GOLEUO’R GWYLLT.
Yr her oedd dylunio a gweithgynhyrchu’r dyfeisiau y bydd miloedd o ‘Oleuwyr’ gwirfoddol yn eu cario yn y lleoliadau gwyllt byddan nhw’n eu dewis ar hyd a lled y DU fel rhan o’r ŵyl.
Felly roedd angen i’r dyfeisiau fod yn solet, yn hawdd eu defnyddio ac yn ddibynadwy. Roedd angen iddyn nhw hefyd alluogi’r coreograffwyr yn Walk the Plank i’w ffurfweddu ar gyfer amrywiaeth o effeithiau arbennig er mwyn creu’r golygfeydd gwych, gweledol sydd ar y gweill.
Roedd ein peirianwyr, gan gynnwys graddedigion, yn cyfuno manteision y Rhyngrwyd Pethau (IoT) a thechnoleg ddi-wifr sydd eisoes yn cael ei defnyddio gan y diwydiannau digwyddiadau, cyfryngau a chelfyddydau i ddylunio pensaernïaeth system a dyfeisiau newydd sy’n addas i’w defnyddio’n symudol mewn amgylcheddau mawr yn yr awyr agored. Mae’r technolegau a ddefnyddir yn cynnwys olrhain lleoliad mewn amser real, batris a storio eu hynni a chysylltedd di-wifr.
Rydyn ni wedi llwyddo i brofi prototeipiau cynnar y tu allan i bencadlys Siemens ym Manceinion a bydd y dechnoleg yn cael ei phlannu mewn lampau llaw wedi’u haddasu. Bydd y rhain yn cael eu cynhyrchu gan yr arbenigwyr goleuo digwyddiadau yng Nghaerloyw, Core Lighting.