Yn ôl I: Partneriaid

Unboxed

UNBOXED: Creadigrwydd yn y Deyrnas Unedig yw’r rhaglen greadigol fwyaf a mwyaf uchelgeisiol a gyflwynwyd erioed yn y wlad hon. Mae’n cael ei ariannu a’i gefnogi gan bedair llywodraeth y DU, ac mae wedi’i gomisiynu ar y cyd â Chyngor Dinas Belfast, EventScotland a Cymru Greadigol. Ymunwch â miliynau ar gyfer yr archwiliad pwysig hwn o sut mae creadigrwydd – ein creadigrwydd – yn gallu newid y byd

Mae UNBOXED: Creadigrwydd yn y Deyrnas Unedig yn ddathliad bythgofiadwy o greadigrwydd, fydd yn digwydd ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban ac ar-lein o fis Mawrth i fis Hydref 2022.

Byddwn yn datgelu 10 syniad newydd anhygoel, wedi’u llunio ar draws meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg gan feddyliau disglair yn gweithio mewn cydweithrediadau annisgwyl. Mae digwyddiadau rhagorol a phrofiadau unigryw yn dod i leoedd a gwagleoedd ledled y DU: o drefi’r arfordir a chanol dinasoedd i ardaloedd o harddwch naturiol anhygoel.

Byddwch yn gallu mwynhau UNBOXED yn bersonol, ar y teledu, ar y radio ac ar-lein – y cyfan yn rhad ac am ddim. Ac rydym ni eisiau i chi gymryd rhan ym mhob rhan o’r flwyddyn arbennig hon: ymgymryd â’n rhaglenni dysgu ledled y DU, cymryd rhan mewn gweithdai a digwyddiadau arbennig, hyd yn oed bod â rôl ganolog wrth wireddu un neu fwy o’r 10 o brosiectau syfrdanol hyn.

Ewch ar daith amlgyfrwng gyffrous drwy 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes yn About Us, a dewch i blannu wrth i Dandelion ailddyfeisio gwasanaeth y cynhaeaf ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain. Rhyddhewch botensial diddiwedd y meddwl yn Dreamachine, gwibiwch dri degawd i’r dyfodol gyda GALWAD: A Story from our Future, a byddwch yn un o 20,000 o ‘Lwmenyddion’ yn goleuo ein lleoedd gwyllt a phrydferth yn Green Space Dark Skies. Cewch archwilio cysawd yr haul yma ar y Ddaear yn Our Place in Space, teithio coedwig hudol yng nghanol y ddinas gyda PoliNations, a dringo ar blatfform alltraeth ar ei newydd wedd ym Môr y Gogledd yn SEE MONSTER. Bydd StoryTrails yn animeiddio ac yn amlygu hanesion cudd ein trefi a’n dinasoedd – ac mae Tour de Moon yn ŵyl fawr sydd wedi ei chreu drwy gydweithredu â’n lloeren loerol.

UNBOXED: Creadigrwydd yn y Deyrnas Unedig yw’r rhaglen greadigol fwyaf a mwyaf uchelgeisiol i gael ei chyflwyno ar ein glannau erioed. Caiff ei hariannu a’i chefnogi gan bedair llywodraeth y DU, a’i chyd-gomisiynu gan Gyngor Dinas Belfast, EventScotland a Cymru Greadigol. Ymunwch â miliynau i archwilio sut y gall creadigrwydd – ein creadigrwydd ni – fod â’r pŵer i newid y byd.

Ariennir gan

  • HM Government HM Government
  • Northern Ireland Executive Northern Ireland Executive
  • Scottish Government Scottish Government
  • Welsh Government Welsh Government

Darperir mewn partneriaeth â

  • Belfast City Council Belfast City Council
  • Event Scotland Event Scotland
  • Creative Wales Creative Wales