Yn ôl I: Partneriaid

Walk The Plank

Mae tîm o arbenigwyr celf awyr agored Walk the Plank yn cydweithio i ddyfeisio, i greu ac i gynhyrchu digwyddiadau gwych o theatr awyr agored a chyfranogiad. Mae gennym enw da am drefnu digwyddiadau a gwyliau mawr sy’n dod â phobl at ei gilydd mewn dathliad cyhoeddus. Mae hyn yn seiliedig ar ein gallu i feddwl am syniadau mawr sy’n cysylltu â phobl o bob cefndir.

Mae adrodd straeon wrth galon bron popeth a wnawn, a’r awyr agored yw’r llwyfan ar gyfer ein gwaith. Ein cenhadaeth yw cyfoethogi bywydau drwy brofiadau creadigol a rennir. Ar gyfer Goleuo’r Gwyllt, byddwn yn creu cyfres fythgofiadwy o ddigwyddiadau drwy wahodd pawb, ar draws pedair gwlad y DU, i ddathlu, i fwynhau ac i ddiogelu’r dirwedd, sy’n eiddo i bob un ohonom ni.

alt text
alt text

Walk the Plank yw’r sbardun creadigol y tu ôl i Goleuo’r Gwyllt a bydd yn ymgysylltu â miloedd o gyfranogwyr o gymunedau amrywiol ar hyd a lled y DU i gymryd rhan yn y prosiect cyfranogaeth dorfol hwn. Mae Walk the Plank wedi ymrwymo i chwalu rhwystrau er mwyn rhoi cynhwysiant, cynaliadwyedd, dysgu a chreadigrwydd wrth galon Goleuo’r Gwyllt.

Walk the Plank – creu golygfeydd ysblennydd

Mae Walk the Plank yn un o brif sefydliadau celfyddydau awyr agored y DU ac mae wedi ennill gwobrau ac mae wedi bod yn gweithio ers 30 mlynedd. Gyda phencadlys yn Salford, Gogledd Orllewin Lloegr, a swyddfeydd yng Ngogledd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae’r cwmni’n gweithio’n rhyngwladol ac yn lleol.

Mae prosiectau diweddar yn cynnwys:

  • BODY, gosodiad cyfareddol yn yr awyr agored a ddatgelwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Wyddoniaeth Prydain 2021. Bydd yn mynd ar daith yn ystod 2022/2023
  • Cydweithrediad gyda Mind the Gap, Zara: perfformiad awyr agored mawr cyntaf y byd gyda chast ag anableddau dysgu (Halifax, Llundain 2019)
  • Prosiectau hyfforddiant Ewrop Greadigol, er mwyn meithrin capasiti ymarferwyr creadigol mewn 11 o ddinasoedd Prifddinas Diwylliant Ewrop.
  • Gweithio gyda gwyliau Diwali Melas, Bluedot a Lost Village Manceinion Fwyaf
  • Degfed pen-blwydd Canolfan Mileniwm Cymru
  • Agor tair Prifddinas Diwylliant Ewrop: Lerpwl 2008, Turku 2011 (y Ffindir) a Paphos 2017 (Cyprus)
  • Seremoni gloi Gemau’r Gymanwlad 2002
  • Deg mlynedd fel cynhyrchwyr Diwrnod Manceinion, gorymdaith flynyddol y ddinas, gan weithio gyda Chyngor Dinas Manceinion a grwpiau cymunedol amrywiol ar draws rhanbarth y ddinas

Mae ein gwaith cenedlaethol a rhyngwladol yn cyd-fynd â phrosiectau cyfredol yn Salford: gan weithio gydag ysgolion, colegau ac animeiddio parciau, dyfrffyrdd a mannau gwyrdd y ddinas.

Mae Walk the Plank yn sefydliad dim-er-elw (Rhif yr Elusen 1066077), ac mae ei lwyddiannau o ran cynaliadwyedd amgylcheddol wedi cael eu cydnabod drwy ennill Gwobr Werdd Greadigol (Julie’s Bicycle). Mae’r cwmni yn aelod o LUCI (Lighting Urban Community International), Tîm Cynaliadwyedd Celfyddydau Manceinion ac IETM – rhwydwaith celfyddydau perfformio cyfoes Ewrop.

Mae hwn yn gyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i Walk the Plank a’n partneriaid greu rhywbeth rhyfeddol. Bydd ein prosiect yn cynnwys pobl o bob oed a diwylliant i ddathlu ein tirweddau a’r bywydau sydd ynddyn nhw. Mae’n eu hystyried yn llefydd gwerth eu mwynhau a’u diogelu, i bawb, am byth.

John Wassell
Cynhyrchydd Creadigo, Walk the Plank

Tîm Goleuo’r Gwyllt

Dewch i gwrdd â’r bobl sy’n dod â Goleuo’r Gwyllt yn fyw. Maen nhw’n adnabyddus ym mhedwar ban byd, ac maen nhw wedi bod yn gweithio yn yr awyr agored ers 30 mlynedd