Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r wefan (greenspacedarkskies.uk) Goleuo’r Gwyllt sy’n berchen i Walk the Plank Ltd ac yn cael ei rheoli ganddo (“y wefan hon” / “ein gwefan” / “y wefan”).
Mae Goleuo’r Gwyllt yn brosiect sy’n cael ei ddarparu gan Walk the Plank Ltd.
Mae ‘Goleuo’r Gwyllt’ yn nod masnach cofrestredig.
Mae Walk the Plank wedi ymrwymo i ofalu am eich data personol ac rydyn ni eisiau i chi fod yn gwbl hyderus y byddwn yn parhau i sicrhau mai dim ond at y dibenion a nodir yn y polisi hwn y caiff eich data ei ddefnyddio.
Pwy ydyn ni
Mae Walk the Plank yn un o brif sefydliadau celfyddydau awyr agored y DU. Mae ei wreiddiau yng Ngogledd Orllewin Lloegr ond mae’n gweithio’n rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae wedi ennill gwobrau. Rydyn ni’n cydweithio â chymunedau amrywiol i gyfoethogi bywydau drwy rannu profiadau creadigol. Rydyn ni’n creu gwaith sy’n gwneud i bobl deimlo’n falch, teimlo hunaniaeth a chael naws am le.
Mae Walk the Plank yn gwmni cyfyngedig drwy warant yng Nghymru a Lloegr, Rhif 03028447. Mae Walk the Plank Fireworks yn is-gwmni i Walk the Plank, cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 03664585.
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r holl endidau uchod.
Swyddfa gofrestredig Walk the Plank yw Cobden Works, 37-41 Cobden Street, Salford M6 6WF.
Ein cenhadaeth a’n gweledigaeth
Ein cenhadaeth yw cyfoethogi bywydau drwy brofiad creadigol a rennir a bod yn sefydliad sy’n bwysig yn rhyngwladol o ran creu, arloesi ac addysgu ym maes celfyddydau awyr agored.
Pam rydyn ni’n cadw ac yn prosesu data personol.
Rydyn ni’n cadw data er mwyn datblygu ein hamcanion busnes parhaus ac er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau elusennol.
Rydyn ni’n cadw ac yn prosesu data personol am amrywiol resymau:
- Cadw cofnod o’n gweithwyr amser llawn, gweithwyr llawrydd, hyrwyddwyr, comisiynwyr, dysgwyr, hyfforddeion, interniaid, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, arweinwyr cymunedol, rhoddwyr a chefnogwyr, ac unrhyw bobl/sefydliadau eraill sydd wedi mynegi dymuniad i ni gysylltu â nhw, neu sydd wedi rhoi eu data i ni mewn cysylltiad â’u hymwneud â ni.
- Codi ymwybyddiaeth o’n digwyddiadau, ein rhaglenni dysgu a hyfforddi, gwirfoddoli, llogi cyfleusterau Cobden Works a chyfleoedd eraill i ymgysylltu â Walk the Plank a/neu Walk the Plank Fireworks, lle mae gennym ganiatâd i wneud hynny.
- Anfon gwybodaeth am ein gweithgareddau codi arian ac apeliadau penodol lle rydyn ni wedi cael eich caniatâd neu lle caniateir i ni wneud hynny fel arall.
- Hawlio cymorth rhodd ar roddion i gefnogi apeliadau codi arian.
- Cyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol a nodwyd gyda chefnogwyr a chyllidwyr.
- Cyflawni ein dyletswyddau adrodd elusennol a’n rhwymedigaethau cyfreithiol ehangach fel rhai ein cyllidwyr grant.
- Cefnogi gwirfoddolwyr a mudiadau partner sydd wedi mynegi diddordeb mewn gweithio gyda ni, ffurfio rhwydweithiau, cynnal digwyddiadau a phrosiectau, a chydweithi.
- Cadw mewn cysylltiad â’n gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol sydd wedi cysylltu â ni, naill ai’n unigol neu ar y cyd.
- Cadw mewn cysylltiad ag unigolion a sefydliadau sydd wedi defnyddio, neu sydd wedi mynegi diddordeb, defnyddio ein cyfleusterau Cobden Works neu leoliadau eraill sy’n gysylltiedig â llwyfannu digwyddiad gan Walk the Plank neu Walk the Plank fireworks.
- Sicrhau nad ydyn ni’n anfon gwybodaeth ddiangen at gefnogwyr nac aelodau o’r cyhoedd sydd wedi rhoi gwybod i ni nad ydynt yn dymuno i ni gysylltu â nhw.
- Cael gwybodaeth am ddarpar ymgeiswyr am swyddi cyflogedig, penodol i gomisiwn, llawrydd neu wirfoddol a hysbysebir gan Walk the Plank. Os ydych chi wedi gwneud cais am swydd gyflogedig neu wirfoddol a hysbysebir gan Walk the Plank, neu wedi ymateb i gomisiwn gan artist a hysbysebwyd gennym, byddwn yn cadw data personol fel eich enw a’ch cyfeiriad, dyddiad geni, manylion cyswllt, manylion canolwyr, dogfennau adnabod personol, gwybodaeth bersonol amdanoch chi a’ch gwaith, gan gynnwys eich portffolio/profiad gwaith i gefnogi eich cais. Dim ond pan fyddwch yn rhoi eich caniatâd penodol y byddwn yn prosesu gwybodaeth sensitif fel cysylltu â chanolwyr neu ddilysu eich dogfennau adnabod. Efallai y byddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt i ychwanegu at y rhestrau a gynhyrchir gan Walk the Plank i anfon gwybodaeth atoch am ddigwyddiadau a chyfleoedd yn y dyfodol a allai fod o ddiddordeb i chi yn ein barn ni.
Eich Cydsyniad a Hysbysiadau am Newidiadau
Os byddwch chi’n ymgysylltu â ni, gan gynnwys drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n cydsynio i’r Polisi Preifatrwydd hwn, gan gynnwys ein Polisi Cwcis.
Os byddwch chi’n ymgysylltu â Walk the Plank drwy’r wefan hon, rydych chi’n cydsynio i ni gasglu, defnyddio a rhannu eich data personol o dan ein Polisi Preifatrwydd (sy’n cynnwys ein Polisi Cwcis ac unrhyw ddogfennau eraill y mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn cyfeirio atynt).
O bryd i’w gilydd, efallai byddwn yn diweddaru ein polisi preifatrwydd, a bydd y fersiwn ddiweddaraf ar gael ar y wefan hon ac ar wefan Walk the Plank (www.walktheplank.co.uk) a bydd y dyddiad perthnasol arno.
Os bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i’r Polisi Preifatrwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy roi hysbysiad amlwg ar y wefan.
Yr wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu
Rydych chi’n rhoi data i ni pan fyddwch chi’n dod i’n digwyddiadau, yn cofrestru gyda ni neu’n defnyddio ein gwefan, yn tanysgrifio i’n cylchlythyr ac yn defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â Walk the Plank a’n partneriaid digwyddiadau/hyfforddiant.
Rydyn ni’n cofnodi eich ymweliadau a’ch presenoldeb mewn digwyddiadau ar ein gwefan.
Rydyn ni’n cael data gan eich dyfeisiau a’ch rhwydweithiau, gan gynnwys data lleoliad.
Gan ein bod yn gwella ac yn esblygu ein gwefan yn gyson, a’r platfformau cysylltiedig, rydyn ni hefyd yn casglu data newydd am enwau’r bobl a’r sefydliadau sydd wedi cysylltu â ni.
Presenoldeb mewn Digwyddiadau neu Gymryd Rhan yn ein Prosiectau
Rydyn ni’n casglu gwybodaeth am y rheini sy’n cymryd rhan yn ein prosiectau neu’n mynychu ein hystod lawn o ddigwyddiadau, gan gynnwys gweithdai, hyfforddiant a rhaglenni dysgu, digwyddiadau codi arian a gweithgareddau eraill sy’n cael eu harwain gan Walk the Plank a Walk the Plank fireworks. Yr wybodaeth a gasglwn yw eich enw a’ch cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a, lle bo hynny’n berthnasol, enw cwmni a theitl swydd.
Polisi cwcis
Mae cwci yn ffeil testun syml sy’n cael ei storio ar eich cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol gan weinydd gwefan a dim ond y gweinydd hwnnw fydd yn gallu adfer neu ddarllen cynnwys y cwci hwnnw. Mae pob cwci yn unigryw i’ch porwr gwe. Bydd yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ddienw fel dynodwr unigryw ac enw’r safle a rhai digidau a rhifau. Mae’n caniatáu i wefan gofio pethau fel eich dewisiadau neu beth sydd yn eich basged siopa.
Nid yw ein cwcis yn eich adnabod yn bersonol ac maen nhw’n cael eu defnyddio i wella eich profiad defnyddiwr. Fodd bynnag, rydyn ni’n deall y gall rhai pobl deimlo’n anghyfforddus gyda’r syniad o wefan yn storio ac yn defnyddio gwybodaeth amdanyn nhw.
Gallwch reoli / dileu cwcis fel y dymunwch drwy ddefnyddio gosodiadau’r porwr. I ddysgu mwy am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi cael eu gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i www.aboutcookies.org.
Eich Dyfais a’ch Lleoliad
Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan neu’n ei gadael (gan gynnwys ein hategion neu ein cwcis neu dechnoleg debyg ar wefannau eraill), byddwn yn derbyn URL y safle y daethoch ohono a’r un y byddwch yn mynd iddo nesaf. Byddwn hefyd yn cael gwybodaeth am eich cyfeiriad IP, dirprwy weinydd, system weithredu, porwr gwe ac ychwanegion, dynodwr dyfais a nodweddion y ddyfais, a/neu ISP neu eich cludydd symudol. Os byddwch yn defnyddio ein gwefan o ddyfais symudol, bydd y ddyfais honno’n anfon data atom am eich lleoliad. Mae’r rhan fwyaf o ddyfeisiau’n eich galluogi i atal anfon data lleoliad atom ac rydyn ni’n parchu eich gosodiadau.
Rhannu gwybodaeth
Efallai byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyswllt â phartneriaid digwyddiad trydydd parti dibynadwy. Fel rhan o’n rhwymedigaethau adrodd gorfodol, mae’r gyfraith yn mynnu ein bod yn rhoi gwybodaeth, lle bo angen, i gyrff rheoleiddio fel CThEM, y Comisiwn Elusennau ac awdurdodau statudol tebyg eraill.
Efallai byddwn yn defnyddio manylion cyswllt i gasglu rhestrau data cyfathrebu wedi’u targedu ar sail y data rydyn ni wedi’i gasglu amdanoch chi, neu eich sefydliad, o ran eich diddordeb a fynegwyd neu a ganfuwyd mewn meysydd penodol o’n gwaith, digwyddiadau neu weithgareddau eraill.
Cadw Data
Rydyn ni’n cadw’r data personol rydych chi’n ei roi i ni cyhyd ag sydd ei angen i’n galluogi ni i gyflawni ein hamcanion busnes ac elusennol.
Byddwn yn tynnu gwybodaeth o’n cronfeydd data dim ond os byddwch yn cyflwyno cais electronig i ‘ddad-danysgrifio’ neu’n cysylltu â ni yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.
Dan y Rheoliadau Cyffredinol newydd ar Ddiogelu Data mae gennych chi hawl dan y gyfraith i ofyn am wybodaeth ynghylch pa ddata sydd gennym amdanoch chi ar unrhyw adeg. Byddwn yn ymateb i’ch cais data personol o fewn mis.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y polisi hwn, cysylltwch â’n tîm Marchnata a Chyfathrebu yn
Walk the Plank,
37-41 Cobden Street,
Salford,
M6 6FW.
Neu drwy ein ffonio ni ar 0161 736 8964.
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am Breifatrwydd Data, eich hawliau, a sut mae cwyno ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://ico.org.uk/.
– Medi 2021