Cenhadaeth ac Egwyddorion Arweiniol
Datganiad Cenhadaeth Amgylcheddol
Mae prosiect Goleuo’r Gwyllt yn rhoi cynaliadwyedd amgylcheddol wrth galon ei ddyluniad a’i ddarpariaeth; mae tynnu sylw at werth yr amgylchedd naturiol yn un o’i ddibenion craidd ynghyd â chyflawni effaith gadarnhaol sylweddol y gellir ei mesur. Bydd Goleuo’r Gwyllt yn brosiect carbon bositif net, gan gyfuno patrwm o gynhyrchu allyriadau isel gyda buddsoddi yn yr hinsawdd.
Egwyddorion arweiniol
- Gadael Dim ar Ôl: Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd dros ddiogelu’r amgylchedd naturiol, bioamrywiaeth a’r hinsawdd: Byddwn yn ‘troedio’n ysgafn ar y tir’ yn ein holl weithgareddau, gan adael dim olion o’n cyfnod yno.
- Tu Hwnt i Sero-Net: Bydd y prosiect yn batrwm o ran cynhyrchu carbon isel, bydd yn brosiect carbon bositif net a bydd yn buddsoddi mewn natur a hinsawdd.
- Economi Gylchol: Bydd gennym bolisi dim gwastraff, byddwn yn defnyddio cyn lleied â phosibl o adnoddau o ffynonellau cynaliadwy, byddwn yn cynllunio ar gyfer ailddefnyddio ac ail-bwrpasu deunyddiau, a byddwn yn arloesi yn ein harferion a’n technoleg
- Ysbrydoli: Byddwn yn tynnu sylw at harddwch, gwerth ac amrywiaeth rhywogaethau y mae ein tirweddau’n gartref iddynt, ac yn adrodd ein stori cynaliadwyedd.
- Tryloywder: Byddwn yn mesur ac yn adrodd ar ein holl effeithiau, cadarnhaol a negyddol.
Sut byddwn yn gwneud hyn
Gweledigaeth a chynllunio
Byddwn yn gosod gweledigaeth a systemau clir ar gyfer y prosiect, sy’n rhoi nod cyffredin i bawb anelu ato a fframwaith clir i weithio o’i fewn, sy’n cynnwys:
- Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol – partneriaid ein prosiect, cynghorwyr creadigol, cynhyrchwyr a’r tîm cynhyrchu – yn gynnar yn y broses, i atgyfnerthu’r weledigaeth, y strategaeth a’r polisïau a fydd yn sail i’n systemau a’n harferion.
- Byddwn yn cynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol ar gyfer pob lleoliad sydd wedi ei gadarnhau yn y Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
- Byddwn yn creu dogfennau clir sy’n cyfleu safonau ac arferion y prosiect i staff mewnol a chontractwyr:
– Polisi Caffael
– Llawlyfr Cynaliadwyedd y Prosiect
– Rhestr Wirio Rheolwyr Cynhyrchu
– Cynllun Monitro, Adrodd a Gwerthuso
Canfod, rheoli, mesur ac adrodd ar effeithiau
Mae Goleuo’r Gwyllt yn gyfres o ryw 20 o ddigwyddiadau celf cyfranogol a gynhelir ar dirweddau ar hyd a lled Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Bydd diweddglo’r prosiect yn ffilm a fydd yn cael ei darlledu, bydd rhan ohoni wedi cael ei recordio ymlaen llaw a bydd rhan ohoni’n ddigwyddiad byw. Mae disgwyl i dros 20,000 o bobl gymryd rhan yn y prosiect.
Gweithgareddau ac effeithiau:
- Teithio a thrafnidiaeth: ymweliadau safle, cynhyrchu digwyddiadau, cyfranogwyr – amcangyfrifir y bydd yr effaith fwyaf oddeutu 65 tunnell dros oes y prosiect (Cyfeirnod: Asesiad Allyriadau Carbon Teithio Goleuo’r Gwyllt)
- Adnoddau cynhyrchu: papur swyddfa, defnyddiau traul (ee tapiau, ceblau, beiros), dŵr, toiledau, pŵer, dur, pren ac ati.
- Prosesau gweithgynhyrchu sy’n gysylltiedig â’r dechnoleg (y tu hwnt i’r cwmpas ar gyfer mesur ac adrodd – canolbwyntio ar naratif arloesi)
- Difrod i’r dirwedd: erydiad, sbwriel (mater o’i le), amharu ar y tir
- Llygredd golau: Byddwn yn cyflwyno ymyriadau goleuadau dros dro yn y dirwedd. Bydd y goleuadau’n cael eu defnyddio am lai na 30 munud, yn y cyfnos, ac ni fyddant yn cael eu defnyddio yn y tywyllwch. Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer y prosiect o’r camau cynharaf wedi elwa ar fewnbwn swyddogion y Parc Cenedlaethol sy’n ymwneud ag achrediadau Awyr Dywyll Ryngwladol. Mae ein partner technoleg Siemens, sy’n dylunio’r goleuadau, wedi bod yn gweithio yn unol â chanllawiau technegol a manylebau a ddarparwyd gan arweinydd Awyr Dywyll Parciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.
- Ôl troed digidol – storio yn y cwmwl, cyfarfodydd ar-lein, darlledu (cyfeirnod Canllaw Ôl Troed Digidol WTP)
- Deunyddiau cyfathrebu – brandio, deunyddiau wedi’u hargraffu, baneri, sgrim, ac ati
Byddwn yn pennu targedau CAMPUS uchelgeisiol a chyraeddadwy (Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Synhwyrol ac Amserol) ar gyfer cynaliadwyedd ar y cychwyn cyntaf, a byddwn yn canolbwyntio ar y prif dargedau sy’n ymwneud â holl effeithiau’r prosiect:
- Prif darged: Carbon net bositif (cwmpasau 1 a 2)
- Teithio: Targed bod y rhan fwyaf o gyfranogwyr yn rhannu ffyrdd o deithio (dros 80%), mesur effaith teithio’n gywir ar draws y prosiect, nifer y cyfranogwyr sy’n llwytho’r Ap Teithio ecolibrium i lawr.
- Ynni: 100% o ynni adnewyddadwy ar draws y prosiect (swyddfeydd a lleoliadau cynhyrchu WTP).
- Defnyddio adnoddau: Polisi Dim Gwastraff – dim defnydd untro drwy gydol y prosiect, a dilyn yr hierarchaeth gwastraff.
- 1 x buddsoddiad neu brosiect sy’n canolbwyntio ar natur ym mhob rhanbarth (gyda phartneriaid presennol lle bo hynny’n bosibl).
- 50%+ o dros 20,000 o’r cyfranogwyr yn teimlo budd cadarnhaol o’r profiad mewn perthynas â natur a’r amgylchedd*
- Cadwyn gyflenwi: 100% o gontractwyr yn bodloni safonau sylfaenol WTP a nodir yn y Polisi Caffael.
*Fel y nodir yn yr Astudiaeth Dichonoldeb. Edrychwch ar Gynllun Mesur, Adrodd a Gwerthuso Goleuo’r Gwyllt i gael rhagor o fanylion am hyn a thargedau eraill.
Cyflawni
Mae gennym gyfrifoldeb ac atebolrwydd clir dros gyflawni ein nodau a’n targedau cynaliadwyedd yn y rolau a’r strwythur: