Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn berthnasol i’r wefan (greenspacedarkskies.uk) Goleuo’r Gwyllt sy’n berchen i Walk the Plank Ltd ac yn cael ei rheoli ganddo (“y wefan hon” / “ein gwefan” / “y wefan”).
Mae Goleuo’r Gwyllt yn brosiect sy’n cael ei ddarparu gan Walk the Plank Ltd.
Mae ‘Goleuo’r Gwyllt’ yn nod masnach cofrestredig.
Mae Walk the Plank yn un o brif sefydliadau celfyddydau awyr agored y DU. Mae ei wreiddiau yng Ngogledd Orllewin Lloegr ond mae’n gweithio’n rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae wedi ennill gwobrau. Rydyn ni’n cydweithio â chymunedau amrywiol i gyfoethogi bywydau drwy rannu profiadau creadigol. Rydyn ni’n creu gwaith sy’n gwneud i bobl deimlo’n falch, teimlo hunaniaeth a chael naws am le.
Mae Walk the Plank yn gwmni cyfyngedig drwy warant yng Nghymru a Lloegr, Rhif 03028447. Mae Walk the Plank Fireworks yn is-gwmni i Walk the Plank, cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 03664585.
Swyddfa gofrestredig Walk the Plank yw Cobden Works, 37-41 Cobden Street, Salford M6 6WF.
Datganiad cyfreithiol
Mae gwefan Goleuo’r Gwyllt a’i chynnwys yn hawlfraint i Walk the Plank ©Walk the Plank 2021 / © Goleuo’r Gwyllt 2021. Cedwir pob hawl.
Mae ailddosbarthu neu atgynhyrchu rhan o’r cynnwys neu’r cwbl ar unrhyw ffurf wedi cael ei wahardd, ar wahân i’r canlynol:
- Cewch argraffu neu lwytho dyfyniadau i lawr i ddisg galed leol at eich defnydd personol ac anfasnachol yn unig.
- Cewch gopïo’r cynnwys i drydydd partïon unigol at eu defnydd personol, ond dim ond os ydych yn cydnabod mai’r wefan yw ffynhonnell y deunydd.
Ac eithrio gyda’n caniatâd ysgrifenedig penodol ni, chewch chi ddim dosbarthu na defnyddio’r cynnwys yn fasnachol. Ni chewch ei drosglwyddo na’i storio mewn unrhyw wefan arall na math arall o system adfer electronig. Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio cynnwys y wefan hon.
Telerau ac amodau
Mae’r telerau a’r amodau hyn yn rheoli eich defnydd o wefan Walk the Plank / Goleuo’r Gwyllt.
Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn yn llawn. Os ydych chi’n anghytuno â’r telerau ac amodau hyn neu unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.
Trwydded i ddefnyddio’r wefan
Oni nodir yn wahanol, mae Walk the Plank yn berchen ar hawliau eiddo deallusol y wefan a’r deunydd sydd ar y wefan. Yn amodol ar y drwydded isod, cedwir yr holl hawliau eiddo deallusol hyn.
Cewch weld, llwytho i lawr at ddibenion storio yn unig, ac argraffu tudalennau o’r wefan at eich defnydd personol, yn amodol ar y cyfyngiadau a nodir isod ac mewn mannau eraill yn y telerau ac amodau hyn.
Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
- ailgyhoeddi deunydd o’r wefan hon (gan gynnwys ailgyhoeddi ar wefan arall) heb nodi mai Walk the Plank / Goleuo’r Gwyllt yw’r ffynhonnell;
- gwerthu, rhentu neu is-drwyddedu deunydd o’r wefan;
- atgynhyrchu, dyblygu, copïo neu ecsbloetio deunydd ar y wefan hon at ddibenion masnachol.
Defnydd derbyniol
Rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan hon mewn unrhyw ffordd sy’n achosi, neu a allai achosi, difrod i’r wefan neu amharu ar argaeledd neu hygyrchedd y wefan, neu mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithiol, yn anghyfreithlon, yn dwyllodrus neu’n niweidiol, neu mewn cysylltiad ag unrhyw ddiben neu weithgaredd anghyfreithiol, anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol.
Rhaid i chi beidio â chynnal unrhyw weithgareddau casglu data systematig neu awtomataidd (gan gynnwys, heb gyfyngiad, crafu, cloddio data, echdynnu data a chynaeafu data) ar y wefan hon, neu mewn perthynas â hi, heb ganiatâd ysgrifenedig penodol Walk the Plank.
Rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan hon i gopïo, storio, lletya, trosglwyddo, anfon, defnyddio, cyhoeddi na dosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys (neu sy’n gysylltiedig â) unrhyw ysbïwedd, feirws cyfrifiadurol, ceffyl Trojan, mwydyn, cofnodwr trawiadau bysellau, gwreiddwedd neu feddalwedd cyfrifiadurol maleisus arall.
Rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan hon i drosglwyddo nac anfon gohebiaeth fasnachol na ofynnwyd amdani.
Rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan hon at unrhyw ddibenion sy’n ymwneud â marchnata heb ganiatâd ysgrifenedig penodol Walk the Plank.
Cynnwys defnyddwyr
Yn y telerau ac amodau hyn, ystyr “eich cynnwys defnyddiwr” yw deunydd (gan gynnwys, heb gyfyngiad, testun, delweddau, deunydd sain, deunydd fideo a deunydd clyweledol) rydych yn ei gyflwyno i’r wefan hon, at ba ddiben bynnag.
Rydych yn rhoi trwydded fyd-eang, ddi-droi’n-ôl, anghyfyngedig a rhydd o freindaliadau i Walk the Plank ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu a dosbarthu eich cynnwys defnyddiwr mewn unrhyw gyfryngau presennol neu yn y dyfodol.
Rhaid i’ch cynnwys defnyddiwr beidio â bod yn anghyfreithiol nac yn anghyfreithlon, rhaid iddo beidio â thorri hawliau cyfreithiol unrhyw drydydd parti, a rhaid iddo beidio â gallu arwain at gamau cyfreithiol yn eich erbyn chi neu Walk the Plank neu drydydd parti (ym mhob achos dan unrhyw gyfraith berthnasol).
Rhaid i chi beidio â chyflwyno unrhyw gynnwys defnyddiwr i’r wefan sydd, neu sydd erioed wedi bod, yn destun unrhyw achos cyfreithiol sydd wedi cael ei fygwth neu achos cyfreithiol gwirioneddol neu gŵyn debyg arall.
Mae Walk the Plank yn cadw’r hawl i olygu neu i dynnu unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd i’r wefan hon, neu a gedwir ar weinyddion Walk the Plank, neu a letyir neu a gyhoeddir ar y wefan hon.
Dim gwarantau
Darperir y wefan hon ‘fel y mae’ heb unrhyw sylwadau neu warantau, datganedig neu ymhlyg. Nid yw Walk the Plank yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau mewn perthynas â’r wefan hon na’r wybodaeth a’r deunyddiau a ddarperir ar y wefan hon.
Heb ragfarn i gyffredinolrwydd y paragraff uchod, nid yw Walk the Plank yn gwarantu:
- y bydd y wefan hon ar gael yn gyson, neu ar gael o gwbl; neu
- fod yr wybodaeth sydd ar y wefan hon yn gyflawn, yn wir, yn gywir neu ddim yn gamarweiniol.
Nid yw unrhyw beth ar y wefan hon yn cynrychioli cyngor o unrhyw fath ac nid oes bwriad iddo wneud hynny.
Cyfyngu ar atebolrwydd
Ni fydd Walk the Plank yn atebol i chi (boed hynny o dan gyfraith contract, cyfraith camweddau neu fel arall) mewn perthynas â chynnwys y wefan hon, neu ei defnyddio neu mewn cysylltiad â hi:
- i’r graddau y darperir y wefan yn rhad ac am ddim, am unrhyw golled uniongyrchol;
- am unrhyw golled anuniongyrchol, arbennig neu ddilynol; nac
- am unrhyw golledion busnes, colli refeniw, incwm, elw neu gynilion disgwyliedig, colli contractau neu berthnasau busnes, colli enw da neu ewyllys da, neu golli neu lygru gwybodaeth neu ddata.
Mae’r cyfyngiadau atebolrwydd hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw Walk the Plank wedi cael gwybod yn benodol am y golled bosibl.
Eithriadau
Ni fydd unrhyw beth yn ymwadiad y wefan hon yn eithrio nac yn cyfyngu ar unrhyw warant a awgrymir gan y gyfraith y byddai’n anghyfreithlon ei eithrio neu gyfyngu arno; ac ni fydd dim yn ymwadiad y wefan hon yn eithrio nac yn cyfyngu ar atebolrwydd Walk the Plank mewn perthynas ag unrhyw:
- farwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeulustod Walk the Plank;
- twyll neu gamliwio twyllodrus ar ran Walk the Plank; neu
- fater y byddai’n anghyfreithlon neu’n anghyfreithiol i Walk the Plank eithrio neu gyfyngu ar ei atebolrwydd, neu geisio neu honni ei fod yn eithrio neu’n cyfyngu ar ei atebolrwydd.
Rhesymoldeb
Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno bod yr eithriadau a’r cyfyngiadau atebolrwydd a nodir yn ymwadiad y wefan hon yn rhesymol.
Os nad ydych chi’n credu eu bod yn rhesymol, rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan hon.
Darpariaethau na ellir eu gorfodi
Os nad oes modd gorfodi unrhyw ddarpariaeth yn ymwadiad y wefan hon, neu os canfyddir nad oes modd gorfodi unrhyw ddarpariaeth o’r fath, o dan y gyfraith berthnasol, ni fydd hyn yn effeithio ar orfodadwyedd darpariaethau eraill ymwadiad y wefan.
Amrywiadau
Caiff Walk the Plank adolygu’r telerau a’r amodau hyn o bryd i’w gilydd. Bydd telerau ac amodau diwygiedig yn berthnasol i ddefnyddio’r wefan hon o ddyddiad cyhoeddi’r telerau ac amodau diwygiedig ar y wefan hon. Edrychwch ar y dudalen hon yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r fersiwn gyfredol.
– Medi 2021